Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Rydw i eisiau mynd yn ôl i 2016 pan basiwyd y Ddeddf amgylchedd, wrth gwrs, o le ddaeth yr angen am y rheoliadau yma. Mae’n rhaid dweud roedd y targed hirdymor o dorri allyriadau 80 y cant erbyn 2050 wedi dyddio bryd hynny, pan basiwyd y Ddeddf amgylchedd yn 2016, oherwydd y sail oedd Deddf hinsawdd y Deyrnas Unedig sydd newydd ddathlu ei degfed pen-blwydd, ac ni fu unrhyw ymchwil newydd gogyfer y ddeddfwriaeth yma yng Nghymru yn 2016. Mi gydnabuwyd hynny ar y pryd, ac rwy’n gwybod oherwydd mi wnes i gynnig gwelliannau fel llefarydd Plaid Cymru a oedd yn craffu ar y Bil yma, er mwyn ceisio cryfhau'r targedau a newid y dyddiad hwnnw, er mwyn adlewyrchu'r brys a’r angen i weithredu'n gynt, fel sydd nawr wedi dod yn amlwg eto yn adroddiad diweddaraf yr IPCC. Felly, o ganlyniad, mae’r cyllidebau carbon, y llwybr tuag at 2050 a’r targedau ar gyfer 2020, 2030 a 2040, i gyd ar y trywydd anghywir. Mae’r ffaith bod y targed ar gyfer 2020 wedi gostwng o 40 y cant i 27 y cant yn dangos diffyg gweithredu, efallai, yn hynny o beth, ac yn dangos pam mae angen edrych ar hyn eto.
Nawr, mae’r Ddeddf yn dweud bod cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i gyflwyno rheoliadau sydd wedi ystyried cytundebau rhyngwladol, fel Paris wrth gwrs, a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, yn ogystal â’n dyletswyddau i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn rhyngwladol—sy’n dod o dan un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nid oes dim un o’r rhain wedi’u hystyried yn drwyadl yng nghyngor ac argymhellion Pwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig. Ond, eto, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion annigonol yma yn llwyr.
Nawr, mae adroddiad yr IPCC ym mis Hydref yn rhybudd clir mai dim ond 12 mlynedd sydd gyda ni i osgoi newid hinsawdd trychinebus. Ond y targed sy’n cael ei gynnig fan hyn ar gyfer cyfraniad Cymru mewn 12 mlynedd, erbyn 2030, yw 45 y cant o doriad yn unig. Mi ddylai’r llwybr tuag at ddad-garboneiddio fod ar trajectory gwahanol, yn fwy serth—hynny yw, bod toriadau mwy yn digwydd yn fwy buan ac nid mor raddol ag y mae’r Llywodraeth yn ei fwriadu. Oes, mae yna gost i wneud hynny, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny ac mae angen bod yn sensitif i hynny, ond mi fydd y gost o orfod gwneud mwy yn y dyfodol yn llawer uwch.
Wrth gwrs, fe wnaed y gwaith paratoi ar gyfer y rheoliadau yma cyn gweld adroddiad yr IPCC, ac yn sgil hyn mae angen, yn fy marn i, ymrwymiad clir gan y Llywodraeth y byddan nhw’n cyflwyno rheoliadau wedi’u diweddaru yn dilyn nid yn unig cyngor sydd wedi’i gomisiynu gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig, ond hefyd yn dilyn asesiad o beth yw cyfran deg Cymru i’r byd, gan gofio, wrth gwrs, ein cyfrifoldeb rhyngwladol a’n cyfraniad hanesyddol at newid hinsawdd fel un o’r gwledydd cyntaf i ddiwydiannu. Rydw i felly yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet yn y ddadl yma heddiw i gadarnhau y cawn ni ymrwymiad sicr y bydd y Llywodraeth yn diweddaru’r targedau yma y flwyddyn nesaf, yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael.
Rydw i eisiau cyffwrdd hefyd ar y broses. Mae’r broses a’r diffyg cyfle sydd wedi bod i graffu go iawn ar y cynigion yma yn rhywbeth sy’n annerbyniol yn fy marn i. Nid oes dim ymgynghori wedi bod ar y rheoliadau penodol yma a dim cyfle i’r pwyllgor newid hinsawdd i fod yn rhan o’u datblygiad nhw. Ugain diwrnod rydym ni wedi’u cael o dan Reolau Sefydlog i edrych ar y rhain—20 diwrnod i edrych ar dargedau a fydd gyda ni am bron 40 mlynedd, neu 30 mlynedd beth bynnag. Mi ddylai fod yna reoliadau drafft wedi’u gosod er mwyn i ni gael y drafodaeth ystyrlon yna. Ond yr hyn sydd yn digwydd i bob pwrpas yw bod y Llywodraeth yn gorfodi’r Cynulliad yma i dderbyn y rheoliadau fel ag y maen nhw gan fod yn rhaid eu pasio nhw yn ôl y Ddeddf cyn diwedd y flwyddyn, a’u pasio nhw hefyd cyn gweld y cynllun cyflawni dad-garboneiddio na fydd ar gael, fel rŷm ni wedi clywed, tan fis Mawrth. Ond mae disgwyl i ni benderfynu bod y targedau yma’n addas heb fod wedi deall sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu i’w cyflawni nhw. Mae yna eironi hefyd, rydw i'n meddwl, bod y Llywodraeth yn dod atom ni i ofyn inni basio'r rheoliadau yma ar yr union ddydd yr oedd yna gannoedd o bobl ar risiau'r Cynulliad yn protestio yn erbyn y difrod amgylcheddol a'r effaith o safbwynt allyriadau carbon y bydd y M4 newydd yn ei gael o gwmpas Casnewydd.
I gloi, felly, mae Plaid Cymru yn barod, ond o dan brotest, i bleidleisio o blaid y rheoliadau yma er mwyn osgoi sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn torri Deddf yr amgylchedd, ond dim ond ar sail ymrwymiad clir gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yna dargedau mwy uchelgeisiol yn cael eu mabwysiadu o fewn y flwyddyn.