Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
I ddechrau, felly, â’r cyd-destun, mae'r gyllideb hon yn garreg filltir arall ar ein taith ddatganoli. Am y tro cyntaf, mae'r gyllideb yn cynnwys refeniw a godir yn uniongyrchol o gyfraddau treth incwm Cymru. Bydd yr Aelodau’n gwybod, yn unol â maniffesto fy mhlaid, nad wyf i'n bwriadu cynyddu treth incwm yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Yn ogystal â chyfraddau treth incwm Cymru, mae'r gyllideb yn adlewyrchu’r incwm a ddisgwylir o dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. At ei gilydd, bydd gwerth dros £2 biliwn o’r refeniw a ddefnyddir y flwyddyn nesaf i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei godi o ganlyniad i benderfyniadau a wneir yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dirprwy Lywydd, mae’r gyllideb yn digwydd yn erbyn ymosodiadau deuol cyni cyllidol a Brexit. Fel y mae'r Aelodau'n ei wybod o'r ddadl a gynhaliwyd gennym yn gynharach y prynhawn yma, barn y Llywodraeth hon yw y bydd unrhyw fath o Brexit yn gadael pobl yng Nghymru yn waeth eu byd na phe bai aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd wedi parhau. Mewn Brexit 'dim cytundeb' trychinebus, gallai ein heconomi grebachu hyd at 10 y cant. Byddai’r goblygiadau byrdymor a hirdymor i gyllideb Cymru a'r cyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus mewn sefyllfa o'r fath yn ddifrifol. Byddai’r ymosodiad hwnnw’n fwy niweidiol byth gan y byddai'n dod ar ben y niwed a wnaed gan wyth mlynedd o gyni cyllidol.
Mae’r Aelodau’n gwybod y ffeithiau, ond mae angen i aelodau’r wrthblaid swyddogol yn arbennig eu clywed eto. Pe bai ein cyllideb wedi cadw ei gwerth o 2010, pe na baem ni wedi cael ceiniog yn fwy mewn termau real, byddai gan y gyllideb sydd ger eich bron heddiw £850 miliwn yn fwy i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen. Pe bai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus ddim ond wedi cadw i fyny â'r twf yn yr economi ers 2010, heb gymryd cyfran fwy na’r hyn a etifeddodd David Cameron a George Osborne, yna y prynhawn yma, byddech chi'n trafod cyllideb â £4 biliwn ychwanegol i’w wario ar anghenion brys Cymru. Pe bai Llywodraeth y DU heddiw wedi llwyddo i gynnal y duedd tymor hwy mewn gwariant cyhoeddus, tuedd tymor hwy a gynhaliwyd gan lywodraethau o dan arweiniad Harold Macmillan, Edward Heath, Margaret Thatcher, John Major, yna byddai ein cyllideb tua £6 biliwn yn fwy nag ydyw mewn gwirionedd heddiw. Yn hytrach, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni Ganghellor, Philip Hammond, a ddywedodd yn ei gyllideb ar 29 Hydref bod cyni cyllidol ar ben, cyn gadael, yn gywilyddus, y bobl fwyaf anghenus yn ymdopi ar fudd-daliadau tlodi, gyda’u hincwm wedi’i rewi neu'n gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol. Canghellor a ddywedodd y bod ei gyllideb yn un a fyddai'n rhyddhau buddsoddiad i ysgogi ffyniant yn y dyfodol, ac a roddodd £2.6 miliwn yn unig o gyfalaf ychwanegol i’r Cynulliad hwn wedyn i roi sylw i'r holl anghenion buddsoddi heb eu diwallu sydd gennym ni y flwyddyn nesaf. Dyma'r cyd-destun diosgoi y lluniwyd cyllideb heddiw ynddo, ac ni ddylai neb anghofio hynny, hyd yn oed os byddwn ni'n gweld, fel ymddangosiad blynyddol Scrooge adeg y Nadolig, y Ceidwadwyr yn tynnu’r llwch oddi ar eu gwelliant blynyddol i’r gyllideb, y byddwn ni'n ei wrthwynebu unwaith eto.
Dirprwy Lywydd, rwy’n troi at ail brif ran yr hyn yr wyf i eisiau ei roi ar gofnod y prynhawn yma: y newidiadau yr wyf i'n bwriadu eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol, i'w chyhoeddi yn ddiweddarach y mis yma. Ddechrau mis Hydref, fe'i gwnaed yn eglur gan y Prif Weinidog a minnau, pe bai unrhyw adnoddau pellach ar gael i ni dros yr hydref, y byddai cyllid pellach i lywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol. Rwy’n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y trafodaethau manwl ac adeiladol ers mis Hydref, ac am y canlyniad y llwyddwyd i'w sicrhau gennym. Mae’r pecyn o fesurau ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol y flwyddyn nesaf yn cyrraedd cyfanswm o £141.5 miliwn. Mae hynny'n cynnwys setliad sydd o leiaf yn wastad o ran arian yn nhermau refeniw ar gyfer llywodraeth leol unwaith eto y flwyddyn nesaf—y drydedd flwyddyn yn olynol, Dirprwy Lywydd, pan rydym ni wedi gallu amddiffyn llywodraeth leol Cymru rhag toriadau arian parod.
Unwaith eto, byddaf yn dod o hyd i’r arian yn ganolog i bennu cyllid gwaelodol nawr na fydd yn is na -0.5 y cant, fel na fydd unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu gostyngiadau uwchben y lefel honno. A byddwn yn gallu rhoi hwb o £100 miliwn arall dros dair blynedd i’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ychwanegol at yr ychwanegiadau at fuddsoddiad cyfalaf y llwyddais i'w cyhoeddi yn y gyllideb ar 2 Hydref.