10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 6:25, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, rwy’n gwybod bod gan Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mewn cymorth ar gyfer ardrethi a delir gan fusnesau bach. Mae tri chwarter o fusnesau eisoes yn derbyn cymorth gyda'r costau hyn gan y trethdalwr yma yng Nghymru. Yn ei gyllideb ar 29 Hydref, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ei fod yn bwriadu cyflwyno cynllun rhyddhad ar gyfer y stryd fawr, cynllun, wrth gwrs, sydd wedi bod ar waith gennym ni yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, mae cyflwyno cynllun yn Lloegr yn arwain at swm canlyniadol i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Cadarnheais i'r Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fy mod i'n bwriadu defnyddio’r swm canlyniadol llawn o £26 miliwn i gynorthwyo busnesau yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Heddiw, Dirprwy Lywydd, gallaf fynd ymhellach i hysbysu'r Aelodau fy mod i'n bwriadu defnyddio’r rhan fwyaf o'r arian hwnnw i ddarparu datblygiad estynedig a mwy hael o gynllun presennol Cymru, gan gadw’r paramedrau sylfaenol, y cytunais arnynt ar y cychwyn gyda llefarydd cyllid Plaid Cymru ar y pryd. Rwy’n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi manylion llawn y cynllun yn fuan iawn. A, Dirprwy Lywydd, gan fy mod i'n cydnabod y gall unrhyw gynllun cenedlaethol adael rhai anomaleddau ar lefel leol, rwyf i hefyd yn bwriadu cynyddu’r cyllid i awdurdodau lleol ymhellach i hybu eu gallu i ymateb i anghenion penodol trethdalwyr yn eu hardaloedd drwy gyfrwng y cynllun rhyddhad ardrethi dewisol y mae awdurdodau lleol yn ei weithredu ym mhob rhan o Gymru.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, yn y rhan hon o'r hyn sydd gennyf i’w ddweud, i nodi elfen arall yn y cytundeb sydd gennym ni gyda Phlaid Cymru yn yr ail flwyddyn hon o’r cytundeb cyllideb dwy flynedd a sicrhawyd gennym ar becyn o fesurau y llynedd, lle'r ydym ni'n rhannu buddiannau polisi. Roedd cyllideb ddrafft 2 Hydref yn cynnwys £2.7 miliwn yn ychwanegol i uwchraddio dau wersyll yr Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog.

Heddiw, gallaf hysbysu'r Aelodau fy mod i'n bwriadu dyblu faint o gyllid cyfalaf sy'n cael ei neilltuo yng nghyllideb y flwyddyn nesaf i fwrw ymlaen â chanlyniadau astudiaethau dichonoldeb y cytunwyd arnynt rhwng ein dwy blaid, o £5 miliwn i £10 miliwn. Rwy’n gwneud hynny oherwydd y cynnydd a wnaed o ran llunio'r astudiaethau hynny. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd y Gweinidog diwylliant y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am yr astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel celfyddyd gyfoes newydd i Gymru ac amgueddfa bêl-droed newydd. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer archif genedlaethol i Gymru ar gael erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae ein dwy blaid eisiau i’r gwaith hwnnw allu cael ei wneud a bydd y cyfalaf ychwanegol sylweddol hwn, yr wyf i'n ei gyhoeddi y prynhawn yma, yn helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, i drydedd ran yr hyn yr wyf i'n mynd i’w ddweud yn y rhan hon o'r ddadl ac, yn benodol, i ddarparu ymateb rhagarweiniol i argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Byddaf, wrth gwrs, yn darparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i'r pwyllgor cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Y prynhawn yma, roeddwn i eisiau dweud ar unwaith fy mod i'n derbyn y cyntaf o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid y dylem ni gadw'r arfer presennol o broses gyllideb dau gam ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy’n bwriadu, hefyd, dilyn cyngor y pwyllgor o ran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a byddaf yn falch o roi i'r pwyllgor unrhyw femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd o ran rhagolygon treth annibynnol fel y mae adroddiad y pwyllgor yn ei awgrymu.

Dirprwy Lywydd, rhoddwyd llawer o sylw yn ystod y broses graffu ar draws pwyllgorau’r Cynulliad i wariant ataliol. Rwy’n gobeithio bod y diffiniad o atal, y cytunwyd arno mewn ymgynghoriad â chyrff trydydd sector, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y gwasanaeth tân ac eraill, wedi helpu yn rownd eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at fireinio pellach arno mewn trafodaethau â’r pwyllgorau ac eraill. Yn sicr ni fwriedir mai dyma fydd y gair olaf ar y mater hwn, ac rwy’n hyderus y bydd y broses graffu yn caniatáu i ni fynd â’r diffiniad hwnnw ymhellach. Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cymryd diddordeb arbennig mewn atal, ochr yn ochr ag agweddau eraill ar y gyllideb, a diolchaf iddi hi a'i thîm am y cyngor a ddarparwyd ar gymhwysiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r broses llunio cyllideb, ac felly i'r Pwyllgor Cyllid am eu cydnabyddiaeth o'r camau ychwanegol a gymerwyd eleni i wneud y newid diwylliannol angenrheidiol o fewn Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r Ddeddf ym mhopeth a wnawn.

Llywydd, mae argymhelliad olaf y pwyllgor yn fy nychwelyd i le y dechreuais i'r ddadl hon y prynhawn yma, gan nodi'r angen am hyblygrwydd cyllidebol mewn ymateb i Brexit, ac wrth gwrs rwy’n cytuno â’r argymhelliad hwnnw. Gallai penderfyniadau a wneir yn yr ychydig wythnosau nesaf gael effaith ddwys a pharhaol ar yr adnoddau sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli i Gymru. Mae'r ansicrwydd hwnnw wedi bod yn gwmwl dros holl broses y gyllideb eleni, hyd yn oed wrth i ni yn y Llywodraeth barhau i ymroi i wneud popeth a allwn i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus ymateb i heriau gwirioneddol y presennol, gan gymryd camau i wella'r rhagolygon i ddinasyddion Cymru yn y dyfodol. Dyna mae’r gyllideb hon yn ei wneud, a gofynnaf i’r Aelodau ei chefnogi y prynhawn yma.