Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Dydy o ddim, meddai hi.
Addysg bellach, wedyn—bythefnos yn ôl, mi bleidleisiodd y Senedd o blaid cynyddu'r arian sydd ar gael i addysg bellach. Mae angen i'r Llywodraeth barchu ewyllys y Senedd mewn penderfyniadau fel hyn. Dyna oedd fy neges i at yr Ysgrifennydd Cabinet mewn llythyr yn dilyn y bleidlais honno. Rydw i wedi derbyn ymateb ddoe yn nodi bod arian ychwanegol tuag at gyflogau yn benodol ond nid wyf i'n credu bod hynny'n ddigon nac yn adlewyrchu ysbryd y bleidlais yna bythefnos yn ôl. Felly, mi hoffwn i ofyn iddo fo, felly: beth ydy bwriad y Llywodraeth i weithredu yn glir ar y bleidlais honno a faint o arian ychwanegol all addysg bellach ei ddisgwyl?
Mae yna gytundeb wedi bod gennym ni—mae cytundeb ddwy flynedd ar hyn o bryd, a hwn ydy'r tro olaf y bydd Plaid Cymru yn cydweithio â'r Llywodraeth ar gyllideb yn y Cynulliad yma, rydw i'n siŵr, felly mi hoffwn i fachu ar y cyfle yma i adlewyrchu dipyn ar y cytundebau hynny. Rydym ni'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni drwy'r cytundebau—£0.5 biliwn o ymrwymiadau ariannol tuag at ein blaenoriaethau o'n maniffesto ni yn 2016, mwy nag y mae unrhyw wrthblaid yn y Cynulliad erioed wedi ei sicrhau. Mae'n cynnwys £40 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'n golygu bod addysg feddygol yn cael ei chyflwyno ym Mangor o'r flwyddyn nesaf. Mae yna fwy o gefnogaeth i fusnesau Cymru baratoi ar gyfer Brexit. Mae yna arian sylweddol i wersylloedd yr Urdd, diolch i gytundeb Plaid Cymru hefyd. Ac rydw i'n falch o glywed cadarnhad y prynhawn yma o ragor o arian cyfalaf i ddatblygu cynlluniau am amgueddfa bêl-droed ac oriel gelf fodern, a oedd yn destun astudiaethau dichonoldeb drwy ein cytundeb ar y gyllideb. Dyma ydy delifro fel gwrthblaid, dyna ydy bod yn gyfrifol, dyna ydy ystyr gweithio mewn ffordd aeddfed er mwyn sicrhau gwelliannau i fywydau pobl bob dydd—y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli. Ond, fel rydw i'n ei ddweud, cyllideb Llafur ydy hi, a Llafur fydd yn penderfynu a ydy'n cael ei phasio fel ag y mae ai peidio erbyn hyn.
Rydym ni'n symud i gyfnod newydd rŵan, wrth gwrs, yn ein hanes fel cenedl, yn hanes datganoli. Mae datganoli pwerau trethi, yn hollol gywir, yn mynd i arwain at fwy o sgriwtini a sgriwtini mwy manwl o'n prosesau a'r penderfyniadau cyllidol sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru. Nid corff gwariant yn unig ydy'r Llywodraeth bellach, ac mi ydym ni'n esblygu i gyfnod lle bydd y balans o dderbyniadau i goffrau Cymru yn cael ei gydbwyso a'i gyd-sgriwtineiddio, os liciwch chi, ochr yn ochr â'r penderfyniadau gwario. Fel yna y mae hi i fod, ond mae'n golygu cyfrifoldeb dwys iawn ar ysgwyddau'r Ysgrifennydd cyllid, a dyna pam fod cael y cydbwysedd yn iawn a chael y blaenoriaethau’n iawn mor bwysig, a dyna pam y siom am y setliad llywodraeth leol drafft yn benodol, a pham yr apêl am ail ystyried, hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg.
Mae yna rai trethi wrth gwrs wedi cael eu datganoli yn barod. Mae'n deg i ddweud, rydw i'n meddwl, am ein gwaith ni yn y Pwyllgor Cyllid, ei bod hi i raddau helaeth yn gynnar i asesu'r effaith y mae'r trethi newydd hynny yn ei chael ar ein pŵer gwario ni a phŵer gwariant Llywodraeth Cymru ar y penderfyniadau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd. Mi fydd cymryd cyfrifoldeb, wrth gwrs, am gyfran y cyfraddau treth incwm yn gam allweddol a sylweddol pellach ymlaen. Mae o'n gam rydw i a'm phlaid wedi ei gefnogi yn hir. Mae yna elfennau o risg, wrth gwrs, fel y mae'r Alban wedi'i brofi yn ddiweddar, ond nid oes gen i amheuaeth y bydd y cymhelliad yno rŵan i'r Lywodraeth arloesi a chodi'r bar o ran targedau perfformiad economaidd, codi'r bar o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni drwy ei gyllideb. Mae hefyd yn glir nad y Llywodraeth Lafur fydd y rhai i ddelifro yr uchelgais angenrheidiol honno.