10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:19 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 7:19, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n bwriadu gwneud rhai sylwadau cyffredinol ar y gyllideb, yna rhai mwy manwl fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Ar y gyllideb, mae hon wedi'i phennu mewn sefyllfa o gyni parhaus. Dylem ni, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, fod yn cael o leiaf £800 miliwn yn fwy. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid yw cyni yn bolisi economaidd, mae'n ideoleg—ymagwedd ddeublyg o doriadau a phreifateiddio. Ar hyn o bryd, mae gennym ni sefyllfa lle mae gan Jeremy Corbyn fwy yn gyffredin â llywodraethau ar ôl y rhyfel Churchill, Eden a Macmillan nag sydd gan Theresa May. Ar godi refeniw, mae incwm o dreth incwm yn cael ei ddiogelu yn y flwyddyn gyntaf, a byddwn yn gweld sut y mae'r incwm yn gysylltiedig â'r hyn a ragwelir, fel y trafododd Llyr Gruffydd yn gynharach.

Unwaith eto, rydym ni'n gweld cynnydd yn y gyllideb iechyd fel canran o gyllideb Cymru. Ni all hyn barhau am gyfnod amhenodol, os yw hynny dim ond oherwydd, ar ryw adeg, y bydd yn cyrraedd 100 y cant o gyllideb Cymru. Hefyd, mae'r gyfran o'r iechyd y mae'r gyllideb gofal sylfaenol yn ei chael yn peri pryder—pan yr ydym yn dweud 'iechyd', rydym yn golygu ysbytai, ac ni all hynny fod yn ffordd o wneud cenedl yn iachach. Ar gyfer iechyd da, mae angen tai o ansawdd da, deiet da ac ymarfer corff, peidio ysmygu a pheidio ag yfed llawer iawn o alcohol. Mae gwir angen inni wneud mwy ynghylch gwella iechyd a ffordd o fyw—un o'r pethau yr oedd Cymunedau yn Gyntaf yn arfer ei wneud cyn ei gau.

Mae Llywodraeth Leol wedi cael gostyngiadau termau real unwaith eto. Mae'r gyllideb ar gyfer Llywodraeth Leol wedi gwella ers y gyllideb ddrafft, a chroesawaf hynny. Mae addewid y bydd unrhyw arian pensiwn athrawon a dderbynnir yn mynd i lywodraeth leol i ariannu'r cynnydd mewn costau pensiwn. Unwaith eto, credaf fod yn rhaid i bawb groesawu hynny. Nid yw'n helpu bod Gweinidogion, yn hytrach na chefnogi gwasanaethau sylfaenol mewn llywodraeth leol, yn defnyddio cyllid ychwanegol ar gyfer ychwanegion—ychwanegion braf; nid oes dim o'i le â nhw—ond mae angen i'r gwasanaeth sylfaenol gael blaenoriaeth. Hefyd, ceir arian yn y cyllidebau, megis economi a thrafnidiaeth, y gellir ei ddefnyddio i gefnogi llywodraeth leol.

Gan droi at y gyllideb sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig, eleni, bu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar gyllidebau drafft Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn gynharach eleni, penderfynodd Llywodraeth Cymru ychwanegu chweched flaenoriaeth at ei strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i bawb'. Y chweched flaenoriaeth newydd yw datgarboneiddio. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r pwyllgor yn ei groesawu, ac roeddem yn awyddus i weld y newidiadau yn y dull o ymdrin â'r gyllideb ddrafft o ganlyniad i'r newid hwn mewn blaenoriaethau. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi canfod llawer o dystiolaeth o sut y mae cynnwys datgarboneiddio fel chweched flaenoriaeth wedi llywio penderfyniadau ynghylch dyrannu'r gyllideb eleni.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi cynigion i ddisodli systemau presennol o gymorth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth â dau gynllun gwahanol: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei bod hi eisiau dechrau'r cyfnod pontio i'r cynlluniau newydd hyn yn 2021. Credwn fod hon yn fenter enfawr ac roedd gennym ni ddiddordeb yn y dyraniadau yn y gyllideb ddrafft i baratoi ar gyfer y newid hwn. Cawsom ein synnu, fodd bynnag, i weld nad oes dim dyraniadau ychwanegol yn y gyllideb i baratoi—dim arian ychwanegol ar gyfer treialu neu fodelu a dim arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cynghori ar gyfer y miloedd o ffermwyr y bydd y newidiadau yn effeithio arnyn nhw. Ni chawsom sicrwydd y gellid gwneud y paratoadau yn ddigonol o fewn y cyllidebau presennol. Mae hwn yn faes lle'r ydym wedi gwneud nifer o argymhellion.

O ran cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, hoffwn ganolbwyntio ar gronfa dyfodol yr economi a sut y mae'n gysylltiedig â datgarboneiddio. Ein prif bryder oedd y trefniadau monitro sy'n gysylltiedig â rhai rhannau o'r gronfa. Mewn egwyddor, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod yn rhaid i fusnesau sy'n ceisio buddsoddiad yn rhan o'r contract economaidd ddangos eu cynnydd o ran lleihau eu hôl troed carbon. Credwn y dylai fod ymrwymiad clir, amlwg bod gan y busnes dan sylw bwyslais difrifol ar leihau ei ôl troed carbon. Mae'n debygol iawn y bydd angen mwy na dim ond cyfres o sgyrsiau ar hyn. Rydym ni hefyd wedi argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet barhau i adolygu gweithrediad yr alwad i ddatgarboneiddio, gyda'r nod o annog mwy o fusnesau i wneud defnydd o'r cyllid i leihau eu hôl troed carbon.

Hoffwn ymateb i rai sylwadau. Rwy'n cytuno â David Melding fod angen inni adeiladu mwy o dai. Mae adeiladu mwy o dai yn syml iawn: caniatewch i gynghorau fenthyca arian i adeiladu tai cyngor yn erbyn gwerth y stoc tai presennol. Byddai'n golygu newid ym mholisi'r Trysorlys, ond byddai'n caniatáu adeiladu tai cyngor ar raddfa enfawr. Mae rhai ohonom ni a fagwyd mewn tai cyngor yn y 1960au yn ymwybodol iawn o'r nifer enfawr o ystadau a'r nifer fawr o dai a adeiladwyd ledled Cymru ar y pryd. Roedd hynny, rwy'n credu, yn bwysig iawn, ond mae angen inni ganiatáu i gynghorau adeiladu unwaith eto, a dim ond trwy newid rheolau'r Trysorlys y gellir gwneud hynny.