Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:56, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, hoffwn geisio dawelu pethau yn y ffordd hon drwy ddweud bod dau beth wedi digwydd ddoe sy'n gwneud y rhagolygon ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' yn llai tebygol, ac rwy'n falch iawn o hynny. Y ffordd orau oll o dawelu pryderon fyddai i Lywodraeth y DU gymryd y cyngor a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a negodi ffurf ar Brexit sy'n rhoi cefnogaeth ddilys i economi Cymru a swyddi, fel na fyddai'n rhaid inni osod arbenigwyr yn erbyn ei gilydd i ymdrin â'r posibilrwydd damcaniaethol ond trychinebus y gallem adael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau sy'n gwneud y niwed mwyaf.