Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:57, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gyfeirio'n ôl at adroddiad y prif economegydd, oherwydd mae'n dweud ynddo fod consensws cryf ymhlith economegwyr ynglŷn â phrif egwyddorion darogan, ac un ohonynt yw bod pellter ei hun yn rhwystr a masnach yn gyffredinol yn fwy bywiog gyda phartneriaid sy'n agos, yn ddaearyddol ac o ran eu cam datblygu economaidd. Mae model y Trysorlys a'r rhan fwyaf o'r modelau eraill y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon yn defnyddio'r hyn a elwir yn fodel disgyrchedd o ddarogan, a'r egwyddor sylfaenol yw bod swm y fasnach a gyflawnir rhwng dwy wlad yn lleihau gyda sgwâr y pellter rhyngddynt. Ond lluniwyd yr holl ddata y seiliwyd y model darogan braidd yn amheus hwn arno yn yr 1980au a chyn hynny—byd heb ryngrwyd, heb FaceTime, heb e-bost, heb Google Translate, heb amlwythiant safonedig, cyn i wladwriaethau Marcsaidd blaenorol, fel Tsieina, gael eu hagor, heb Sefydliad Masnach y Byd, hyd yn oed—ac felly, o ystyried bod masnach mewn gwasanaethau bellach yn llawer iawn pwysicach i'n heconomi ac yn wir, i economi ein cymdogion Ewropeaidd na'r pryd hwnnw, a symudedd byd-eang yn llawer mwy a'r chwyldro digidol wedi digwydd, mae'r rhagdybiaethau y seiliwyd y modelau darogan hyn yn affwysol o hen ffasiwn, a dyna pam y maent yn cynhyrchu'r rhagfynegiadau brawychus o anghytbwys hyn, y profir bob amser wedi'r digwyddiad eu bod yn gwbl anghywir.