Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:59, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, yn gyffredinol disgrifir y dadansoddiad disgyrchedd, fel y dywedodd yr Aelod, fel hyn: 'mae masnach yn haneru wrth i'r pellter ddyblu', ac mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych sy'n synnwyr cyffredin at ei gilydd: eich bod yn fwy tebygol o gael perthynas economaidd fwy bywiog gyda'r rhai sydd agosaf atoch, a pho bellaf y bydd eich marchnad oddi wrthych, y lleiaf tebygol y byddwch o gael masnach sydd yr un mor fywiog. Yr anhawster gwirioneddol i'r Aelod yw bod yr holl bethau y mae'n tynnu sylw atynt er mwyn ceisio tanseilio dadansoddiad disgyrchedd yn berthnasol pa un a ydym yn yr Undeb Ewropeaidd ai peidio. Ac nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffaith berthnasol yn y dadansoddiad y mae newydd geisio'i nodi.