Buddsoddi Cyfalaf yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:03, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am benderfyniad cyngor Rhondda Cynon Taf i lansio'r rhaglen buddsoddiad cyfalaf fwyaf yn ei hanes, ac rwy'n siŵr eich bod chi fel finnau wedi croesawu'r penderfyniad hwnnw. Mae'n £300 miliwn, a bydd £45 miliwn ohono'n cael ei wario ar dai. Mae cynlluniau arloesol yn yr arfaeth, a phartneriaethau pwysig gyda'r sector preifat a chymdeithasau tai—a'r awdurdod lleol ei hun, wrth gwrs. O ystyried bod y Trysorlys bellach yn codi'r cap benthyca ar gynghorau sy'n dymuno adeiladu mwy o dai, onid ydych yn croesawu'r dull hwn o weithredu, sef yn union y math o ffordd y dylem fynd ati o ddifrif i ysgogi ein heconomïau lleol mewn cyfnod ariannol anodd?