Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Wel, rwy'n croesawu codi'r cap, a gwn fod fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, wedi bod yn gohebu gydag awdurdodau lleol am yr hyn y bydd hynny'n ei wneud i'w gallu i godi rhagor o arian i'w fuddsoddi mewn tai. Wrth gwrs mae David Melding yn gywir ynglŷn ag effaith economaidd lleol adeiladu tai mewn cymunedau, ac rwy'n cytuno ag ef fod cyngor Rhondda Cynon Taf, o dan arweinyddiaeth y Cynghorydd Andrew Morgan, ymhlith y cynghorau mwyaf arloesol yng Nghymru am ddod o hyd i ffyrdd o ehangu eu gallu i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf, nid yn unig mewn tai ond mewn llawer o feysydd eraill yn ogystal. Ar y cyd â Jane Hutt, y Cynghorydd Morgan yw awdur y fenter benthyca llywodraeth leol y gwnaethom helpu i'w hariannu, ac rwy'n eu llongyfarch ar y gwaith a wnânt yn y maes hwn.