Part of the debate – Senedd Cymru am 7:30 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 36 wedi cael ei ailgyflwyno fel mater o egwyddor. Yng Nghyfnod 2, dywedodd fy nghyd-Aelod, Suzy Davies AC, yn glir iawn wrth y Gweinidog y dylai fod pŵer gan y Cynulliad i atal gweithredu gan Lywodraeth Cymru dros dro os credwn ei bod wedi gweithredu y tu allan i'w phwerau. Mae adran 12(3)(b) o'r Bil yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â'r Bil yn dod i rym, ac mae'r gwelliant hwn yn rhoi'r un cyfle'n union i'r Cynulliad—i Lywodraeth Cymru egluro ei gweithredoedd os gofynnir cwestiynau. Diolch.