Cyllidebau Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:45, 5 Rhagfyr 2018

Mae awdurdodau lleol Cymru yn gosod eu cyllidebau yng nghyd-destun eu cynlluniau ariannol tymor canolig. Maen nhw’n seiliedig ar gymysgedd o refeniw a godwyd yn lleol a darpariaeth Llywodraeth Cymru o grantiau penodol a chyllid heb ei neilltuo drwy’r grant cynnal refeniw. Eleni, cyllidebwyd dros £7 biliwn o wariant gan awdurdodau lleol.