2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllidebau llywodraeth leol? OAQ53038
Mae awdurdodau lleol Cymru yn gosod eu cyllidebau yng nghyd-destun eu cynlluniau ariannol tymor canolig. Maen nhw’n seiliedig ar gymysgedd o refeniw a godwyd yn lleol a darpariaeth Llywodraeth Cymru o grantiau penodol a chyllid heb ei neilltuo drwy’r grant cynnal refeniw. Eleni, cyllidebwyd dros £7 biliwn o wariant gan awdurdodau lleol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y byddwch yn gwybod, gwelwyd toriad o £1 biliwn i gyllid llywodraeth leol dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae llawer o gynghorau yn sôn am bwysau difrifol ar ysgolion a gofal cymdeithasol. Maent yn sôn am flinder a diffyg morâl ymhlith y gweithlu ac yn rhagweld y bydd 7,000 o swyddi eraill yn cael eu colli dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn mantoli'r cyfrifon yn unig. Mae'r alwad am gymorth ariannol angenrheidiol gan arweinwyr awdurdodau lleol ar draws Cymru i'w gweld yn syrthio ar glustiau byddar. A ydych yn falch o'r rôl y mae eich Llywodraeth yn ei chwarae yn llethu llywodraeth leol ac ysgolion yn llwyr?
Lywydd, mae'n hawdd iawn i ni ddisgrifio'r problemau sy'n wynebu llywodraeth leol, ond ar y meinciau hyn, rydym yn ceisio disgrifio atebion yn ogystal. Mae cyflwyno datganiad i'r wasg yn galw am arian ychwanegol ar gyfer holl feysydd gwariant y Llywodraeth yn ymateb annigonol i'r heriau a wynebwn heddiw. Mae'n ymateb annigonol ac anaeddfed. Rwyf am ddweud hyn wrth yr Aelod: rwyf wedi cyfarfod â phob arweinydd gwleidyddol llywodraeth leol yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda hwy ynglŷn â'r heriau sy'n ein hwynebu. Ond rwyf am ddweud hyn yn ogystal: yn y dyfodol, mae angen i ni feddwl yn galetach ynglŷn â sut y trefnwn ac y strwythurwn ein gwasanaethau i ymateb i heriau newydd. Ac mae honno'n her nid yn unig i'r Llywodraeth â'r blaid sy'n llywodraethu, ond hefyd, buaswn yn awgrymu, i bob plaid a gynrychiolir yn y lle hwn, oherwydd yn rhy aml, pan gyflwynir cynigion ar gyfer diwygio yma, gwelwn yr un bobl ag a gyhoeddodd ddatganiad i'r wasg i ddweud pa mor anodd yw pethau, yn sefyll i gymryd eu tro i wrthwynebu pob cynnig ar gyfer diwygio. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld llawer iawn o aeddfedrwydd ar y meinciau yn y lle hwn wrth wynebu heriau i lywodraeth leol, yn hytrach na dim ond rhestru'r heriau hynny mewn areithiau.
Wrth gwrs, nid yw o reidrwydd yn hawdd i gynghorau sy'n ceisio gwneud y gorau o'r arian sydd ganddynt er mwyn adfywio canol eu dinas—yn achos Abertawe—a gwella'r economi leol yno. Mewn adroddiad cabinet gan y cyngor yno fis diwethaf, nodwyd bod perygl nad oes gan yr awdurdod lleol ddigon o adnoddau i gwblhau cam 1 ei gynllun i adfywio canol y ddinas—Canol Abertawe. Mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw, dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe wrth gynghorwyr, ac rwy'n dyfynnu, y 'bydd y cyhoedd yn ein saethu'—ychydig yn anffodus, rwy'n credu—gan gyfeirio at gabinet Llafur Cyngor Abertawe, os caiff y cynllun adfywio ei ddiddymu. Mae pawb ohonom am weld canol dinas Abertawe yn ffynnu, a dywedaf hynny er bod lliw gwahanol i'r cyngor yno. Sut y gallwch fod yn hyderus, o gofio'r setliad y maent newydd ei gael, fod y cabinet yno'n gallu rheoli ei arian a'i gyllidebau'n briodol fel y gallant ymateb yn briodol i rybuddion ariannol o'r fath?
Mae gennyf hyder llawn yn arweinyddiaeth Cyngor Abertawe i reoli'r cronfeydd sydd ar gael iddo mewn modd priodol. Credaf fod arweinyddiaeth Cyngor Abertawe wedi darparu arweinyddiaeth go ysbrydoledig o ran eu huchelgeisiau ar gyfer y ddinas honno ac mae'n rhoi camau ar waith i'w cyflawni. Credaf fod yr arweiniad a ddangoswyd gan Rob Stewart, fel arweinydd y cyngor, yn gosod esiampl ar gyfer llawer o arweinwyr eraill, ond hefyd yr arweiniad a ddangoswyd gan yr holl awdurdodau yn yr ardal honno wrth lunio bargen ddinesig bae Abertawe. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld yr uchelgeisiau hynny'n cael eu gwireddu, ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod dros Orllewin De Cymru nad y fformiwla ariannu yw'r her fwyaf sy'n wynebu Abertawe ond y polisi cyni sydd wedi golygu, ers wyth mlynedd, nad yw Abertawe, nac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, wedi cael y lefel o gyllid y byddem yn dymuno ei rhoi iddynt. A buaswn yn awgrymu i'r Aelodau Ceidwadol, yn hytrach na dod yma a rhestru'r problemau hynny, y dylent fynd i Lundain i restru'r problemau hynny.