Cyllidebau Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:46, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y byddwch yn gwybod, gwelwyd toriad o £1 biliwn i gyllid llywodraeth leol dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae llawer o gynghorau yn sôn am bwysau difrifol ar ysgolion a gofal cymdeithasol. Maent yn sôn am flinder a diffyg morâl ymhlith y gweithlu ac yn rhagweld y bydd 7,000 o swyddi eraill yn cael eu colli dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn mantoli'r cyfrifon yn unig. Mae'r alwad am gymorth ariannol angenrheidiol gan arweinwyr awdurdodau lleol ar draws Cymru i'w gweld yn syrthio ar glustiau byddar. A ydych yn falch o'r rôl y mae eich Llywodraeth yn ei chwarae yn llethu llywodraeth leol ac ysgolion yn llwyr?