Cefnogi Cyn-filwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:01, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn wir, rwy'n croesawu eich datganiad diweddar ac rwyf hefyd yn credu bod ein cyn-filwyr wedi cyflawni eu dyletswyddau dros ein gwlad, ac y dylem ni yn ein tro roi rhywbeth yn ôl iddynt felly, nid yn lleiaf mewn perthynas â'r modd y maent yn dychwelyd i fywyd sifil. Rhan o hynny wrth gwrs, yw ceisio dod o hyd i waith. Ond rwy'n credu bod cyflogaeth ystyrlon yn ganolog i'r daith honno, a chanfyddiadau hefyd y bydd yn cefnogi eu hiechyd meddwl. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud mwy wrthym am y llwybr cyflogaeth a gyhoeddwyd gennych ddoe fel rydych newydd ei ddweud.