Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi lansio'r llwybr cyflogaeth mewn partneriaeth â grŵp arbenigol y lluoedd arfog sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal ag elusennau milwrol, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n darparu opsiynau i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog o ran ble y gallant ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth i sicrhau cyflogaeth sy'n berthnasol iddynt hwy. Dylwn ddweud hefyd wrth yr Aelodau fy mod, cyn dod yma heddiw, wedi lansio pecyn cymorth newydd ar gyfer cyflogwyr, ochr yn ochr â Busnes yn y Gymuned ac eraill, i ategu'r llwybr cyflogaeth. Mae hwn yn ceisio sicrhau bod cyflogwyr eu hunain yn deall y manteision o gyflogi cyn-aelodau'r lluoedd arfog a sicrhau eu bod yn gallu darparu'r cyfleoedd cyflogaeth gorau ar gyfer pawb sy'n gadael ein lluoedd arfog.