Cyllidebau Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:48, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, nid yw o reidrwydd yn hawdd i gynghorau sy'n ceisio gwneud y gorau o'r arian sydd ganddynt er mwyn adfywio canol eu dinas—yn achos Abertawe—a gwella'r economi leol yno. Mewn adroddiad cabinet gan y cyngor yno fis diwethaf, nodwyd bod perygl nad oes gan yr awdurdod lleol ddigon o adnoddau i gwblhau cam 1 ei gynllun i adfywio canol y ddinas—Canol Abertawe. Mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw, dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe wrth gynghorwyr, ac rwy'n dyfynnu, y 'bydd y cyhoedd yn ein saethu'—ychydig yn anffodus, rwy'n credu—gan gyfeirio at gabinet Llafur Cyngor Abertawe, os caiff y cynllun adfywio ei ddiddymu. Mae pawb ohonom am weld canol dinas Abertawe yn ffynnu, a dywedaf hynny er bod lliw gwahanol i'r cyngor yno. Sut y gallwch fod yn hyderus, o gofio'r setliad y maent newydd ei gael, fod y cabinet yno'n gallu rheoli ei arian a'i gyllidebau'n briodol fel y gallant ymateb yn briodol i rybuddion ariannol o'r fath?