Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Mae gennyf hyder llawn yn arweinyddiaeth Cyngor Abertawe i reoli'r cronfeydd sydd ar gael iddo mewn modd priodol. Credaf fod arweinyddiaeth Cyngor Abertawe wedi darparu arweinyddiaeth go ysbrydoledig o ran eu huchelgeisiau ar gyfer y ddinas honno ac mae'n rhoi camau ar waith i'w cyflawni. Credaf fod yr arweiniad a ddangoswyd gan Rob Stewart, fel arweinydd y cyngor, yn gosod esiampl ar gyfer llawer o arweinwyr eraill, ond hefyd yr arweiniad a ddangoswyd gan yr holl awdurdodau yn yr ardal honno wrth lunio bargen ddinesig bae Abertawe. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld yr uchelgeisiau hynny'n cael eu gwireddu, ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod dros Orllewin De Cymru nad y fformiwla ariannu yw'r her fwyaf sy'n wynebu Abertawe ond y polisi cyni sydd wedi golygu, ers wyth mlynedd, nad yw Abertawe, nac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, wedi cael y lefel o gyllid y byddem yn dymuno ei rhoi iddynt. A buaswn yn awgrymu i'r Aelodau Ceidwadol, yn hytrach na dod yma a rhestru'r problemau hynny, y dylent fynd i Lundain i restru'r problemau hynny.