– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Vikki Howells.
Diolch, Lywydd. Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr 1938—daeth miloedd o bobl ynghyd yn y pafiliwn yn Aberpennar, gan gynnwys fy mam-gu fy hun, a fyddai'n diddanu'r teulu am flynyddoedd lawer wedyn drwy sôn am y seren anhygoel a dawnus a welodd yno. Daethant i fynychu cyfarfod coffa a chyngerdd Cymreig cenedlaethol i anrhydeddu 33 o aelodau'r Frigâd Ryngwladol o Gymru—dynion a roddodd eu bywydau'n ymladd yn erbyn ffasgaeth ac i amddiffyn democratiaeth yn rhyfel cartref Sbaen, ac un o'r rhai a ymddangosodd yn y cyngerdd hwnnw oedd y canwr a'r actor Americanaidd enwog, Paul Robeson. Roedd Robeson yn fab i gyn-gaethwas, yn dalentog yn y byd chwaraeon a'r byd academaidd, ond dewisodd ddilyn gyrfa yn y celfyddydau, gan ennill clod am ei rolau ar lwyfan ac ar sgrin. Yn ystod y 1930au, daeth Robeson i gysylltiad cynyddol ag achosion gwleidyddol. Roedd ei gefnogaeth i'r ochr weriniaethol yn Sbaen yn ganolog i hyn. Roedd Robeson yn ystyried hwn yn drobwynt yn ei fywyd. Wrth siarad mewn cyngerdd dros ffoaduriaid Sbaen, datganodd:
Mae'n rhaid i'r canwr ddewis ochr. Mae'n rhaid iddo ddewis ymladd dros ryddid neu dros gaethwasiaeth.
Yn ystod y degawd hwnnw hefyd, ffurfiodd gysylltiadau gydol oes â chymunedau glofaol de Cymru. Perfformiodd mewn clybiau glowyr, canodd mewn cyngerdd i godi arian i gronfa gymorth y glowyr a chwaraeodd y brif ran yn The Proud Valley. Gwnaeth ei gysylltiad â'r cymunedau hyn ymgyrchwr ohono fel y gwnaeth rhyfel cartref Sbaen, a ddydd Gwener, 80 mlynedd ers y cyngerdd yn y pafiliwn, byddaf yn agor arddangosfa yng nghlwb y gweithwyr Aberpennar i ddathlu'r digwyddiad hanesyddol hwn a'r cysylltiad rhyfeddol ar draws yr Iwerydd rhwng Robeson a glowyr de Cymru.
Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Ddoe, ffarweliwyd â'r Athro Mike Sullivan, cyfarwyddwr Academi Morgan Prifysgol Abertawe, sosialydd a Chymro. Cafodd Mike ei fagu mewn teulu dosbarth gweithiol yn Rhisga, ac ef oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i brifysgol. Graddiodd o Rydychen, a bu'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cyn dechrau gyrfa academaidd nodedig, yng Nghaerdydd yn gyntaf, ac yna yn Abertawe. Gwasanaethodd yma fel ymgynghorydd arbennig i'r Blaid Lafur yn ystod cyfnod Llywodraeth Cymru'n Un, gan sicrhau bod y fersiwn orau posibl o Ddeddf Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn cael ei phasio. Ar ôl iddo ddychwelyd i Abertawe, chwaraeodd Mike ran allweddol yn y gwaith o godi proffil rhyngwladol y brifysgol, gan gychwyn y berthynas â'r Ysgrifennydd Clinton, a sefydlodd Academi Morgan, a gafodd ei henwi ar ôl Rhodri Morgan.
Roedd Mike yn gynnes ac yn dosturiol, ond gallai fod yn gadarn pan oedd angen iddo fod. Roedd ei angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol a thros Gymru yn llywio popeth a wnâi. Roedd ganddo ddawn i fod yn gyfaill, a gwn fod llawer yn y Siambr hon, Lywydd, yn falch o'i alw'n ffrind.
Bu Mike farw'n rhy fuan. Mae'n gadael ei wraig Jane, eu mab Ciaran a'i lysblant, ac mae eu colled yn anfesuradwy. I'r rhai ohonom a oedd yn ei adnabod, bydd bywyd Mike yn ein hysbrydoli wrth i ni weithio i adeiladu'r Gymru a'r byd y credai eu bod yn bosibl, a chyda'i brifysgol annwyl, sy'n wynebu heriau ar hyn o bryd, rydym yn addo diogelu ei waddol.
Bethan Sayed.
Yr wythnos hon yw Wythnos Dysgu Gydol Oes y Sylfaen Dysgu Gydol Oes. Dyma'r gymdeithas sifil ban-Ewropeaidd ar gyfer addysg, sy'n defnyddio'r wythnos hon i ddod â phartneriaid o bob cwr o Ewrop at ei gilydd i annog ac i siarad am syniadau ar gyfer meithrin dysgu gydol oes. O gofio bod ein dyfodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ansicr ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y gall Cymru barhau i chwarae rôl mewn rhaglenni ymgysylltu Ewropeaidd fel hon. Mae cyfnewid syniadau a gweledigaethau yn y maes hwn yn gallu ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio orau mewn gwledydd eraill, a sut y gall weithio yma hefyd. Gallwn ddysgu oddi wrth ein cyd-wledydd llai o faint sydd wedi llwyddo i wella a datblygu fframwaith dysgu gydol oes o'r crud i'r bedd go iawn. Mewn cenedlaethau blaenorol, roedd bywyd yn aml yn dilyn patrwm ysgol, gyrfa, ymddeol. Nid yw hyn yn wir mwyach, ac mewn byd lle rydym yn wynebu heriau yn sgil awtomatiaeth, cystadleuaeth gan wledydd o amgylch y byd ac economi hyblyg sy'n esblygu'n gyflym, mae'n rhaid i ni roi pwyslais ar ddysgu a hyfforddiant ar unrhyw oedran, a hyrwyddo meddylfryd sy'n pwysleisio'n gyson nad oes neb byth yn rhy hen i ddysgu sgil newydd neu i fynd ar drywydd diddordeb newydd.
Mae'r Sylfaen Dysgu Gydol Oes yn credu y dylid disgrifio amcan addysg ac hyfforddiant, nid yn unig o ran cyflogadwyedd neu dwf economaidd, ond hefyd fel fframwaith ar gyfer datblygiad personol ac er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad a dinasyddiaeth weithredol. Yn y dyfodol, ni waeth beth yw ein sefyllfa yn Ewrop, credaf ei bod yn hanfodol i ni gefnogi ac ariannu dysgu gydol oes yma yng Nghymru fel y gallwn gefnogi'r ased hanfodol hwn ar gyfer ein gwlad.