Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. O dan y Blaid Lafur, mae pobl Cymru wedi gorfod dioddef gwasanaeth iechyd diffygiol, system addysg sy'n methu a pholisïau economaidd a llywodraeth leol nad ydynt yn gwneud unrhyw synnwyr busnes o gwbl. Unwaith eto, mae Llafur wedi cynnig cyfres o welliannau sy'n dangos eu bod yn gwadu'r problemau a achoswyd ganddynt yn llwyr, ac yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud mai eu tueddiad i wadu sy'n peri i lawer o'r problemau barhau.
Mae Llywodraeth Cymru yn brolio ym mhwynt e) eu gwelliannau fod myfyrwyr Safon Uwch wedi cael y canlyniadau gorau eleni ers 2010. Mae hwnnw'n newyddion da, wrth gwrs, ond mae canlyniadau PISA 2016, fel y crybwyllwyd eisoes, yn rhoi darlun braidd yn wahanol i'r un hyfryd a ddisgrifir yng ngwelliant y Blaid Lafur. Roedd y canlyniadau mewn darllen a gwyddoniaeth yn waeth yn 2016 nag yr oeddent yn 2006, ac er bod gwelliant ymylol wedi bod mewn mathemateg, gwahaniaeth o chwe phwynt yn unig mewn 10 mlynedd ydoedd, a go brin fod hynny'n welliant syfrdanol.
Yng Nghymru, mae canran y disgyblion yr ystyrir eu bod yn cyflawni ar y brig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn llai na hanner y ffigur cyfatebol dros y ffin yn Lloegr. Mae llythrennedd a rhifedd yn elfennau hanfodol o addysg, ac os na all Llywodraeth Lafur Cymru sicrhau bod disgyblion yn ddigon llythrennog a rhifog i'w galluogi i ddysgu'r sgiliau a'r disgyblaethau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd ac i fod yn annibynnol yn ariannol fel oedolion, prin fod gobaith y gallant wneud unrhyw beth arall yn iawn chwaith.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael trefn ar ei blaenoriaethau a chanolbwyntio ar y pethau sylfaenol yn lle ceisio beio rhieni, gorchymyn pa werthoedd a ddysgir i blant ac ymyrryd â deinameg y berthynas rhwng rhiant a phlentyn heb unrhyw reswm dros wneud hynny ar wahân i nodi gwerthoedd ac agwedd elitaidd eu bod yn gwybod yn well na'r rhieni. Nid yw'n adlewyrchu'n dda ar eu gallu i lywodraethu os yw rhywbeth sydd ar ei orau ers saith neu wyth mlynedd yn dal i fod yn waeth na'r hyn ydoedd 12 mlynedd yn ôl.
Ym mhwynt f), maent yn dweud bod incwm gwario yn 2016 yn uwch nag yn 2015, ac ym mhwynt g), maent yn dweud bod cyflogau wedi cynyddu 2.1 y cant. Gallai hyn swnio'n gadarnhaol iawn hyd nes y cofiwch eu bod wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 20 mlynedd. Mae'r ymffrost ynglŷn â chodiadau cyflog yn eithriadol o wirion pan ystyriwch fod chwyddiant yn 2.4 y cant ar hyn o bryd. Mewn termau real, mae gweithwyr Cymru wedi cael toriad cyflog, ond mae Llafur nid yn unig yn gwadu hynny, maent yn ceisio'i ddarlunio fel codiad cyflog. Mae'n siŵr y bydd Llafur yn dweud bod y bobl o'u plaid gan eu bod yn parhau i'w hethol yn Llywodraeth, ac eto, ni wnaethant ennill yr etholiad diwethaf, mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, maent yn dal eu gafael ar fwyafrif yn y lle hwn drwy roi dwy swydd yn y Cabinet i bleidiau eraill i sicrhau bod eu polisïau'n cael eu derbyn, ac nid dyma'r tro cyntaf i Lafur Cymru orfod cael eu cynnal gan rywun arall.
Nid oes ffordd well o brofi eu hanallu i redeg cyrff cyhoeddus na sgandal barhaus Betsi Cadwaladr. Mae Llafur wedi cymryd rheolaeth uniongyrchol ar y bwrdd iechyd, ac mae amseroedd aros ar gyfer rhai gwasanaethau yn dal i waethygu. Os yw eu cyfraniad uniongyrchol yn gwneud pethau'n waeth, neu'n arwain at fawr iawn o gynnydd os o gwbl, sut y gallant hawlio mai hwy yw'r bobl iawn i osod y targedau a'r strategaethau cyffredinol ar gyfer y GIG neu unrhyw beth arall? Wrth i ffigurau poblogaeth gynyddu, mae nifer gwelyau ysbyty yn lleihau o gymharu â'r boblogaeth honno, ac mae'r un peth yn wir am leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon a nyrsys. Mae Llafur Cymru yn gwrthod gwneud y penderfyniadau anodd sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi'r GIG aflwyddiannus yn ôl ar y trywydd iawn. Dyna fersiwn Llafur o'r GIG.
Wrth i gystadleuaeth gynyddu gan bobl ifanc dawnus dros y ffin, gartref a thramor, mae ysgolion Cymru ar waelod y tabl PISA ar gyfer y DU. Dyna fersiwn Llafur o system addysg. Wrth i lai a llai o bobl bleidleisio dros Lafur, maent yn gwadu bod hynny'n digwydd oherwydd eu bod yn gwneud unrhyw beth yn anghywir, ac yn mynnu nad oes angen iddynt newid, a phan yw pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr UE, maent yn ailysgrifennu hanes, yn nawddoglyd tuag at yr etholwyr, yn cyhuddo eu gwrthwynebwyr o ddweud celwydd ac yn cynllunio ffordd o lesteirio ewyllys y bobl. Dyna fersiwn Llafur o ddemocratiaeth.
Yn olaf, polisïau diffygiol ym mhob maes, diffyg parch tuag at yr etholwyr a geiriau slec diddiwedd sy’n beio pobl eraill. Dyna yw fersiwn Llafur o Lywodraeth, ac mae’n hen bryd newid er mwyn rhoi i bobl Cymru yr hyn y maent ei angen a’r hyn y maent yn ei haeddu. Dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.