Blaenoriaethau Economaidd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:32, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Gan mai dyma'r achlysur gorau, neu'r achlysur olaf, y byddwch chi'n ateb cwestiynau yn y Cynulliad hwn fel y Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi dderbyn fy nymuniadau gorau diffuant i a ninnau ar gyfer eich dyfodol oddi wrth yr ochr hon i'r Siambr. Yn yr ysbryd hwn o ewyllys da tymhorol, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ffaith, diolch i bolisïau economaidd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain—[Torri ar draws.]—yn Llundain, bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra ym Merthyr Tudful a Rhymni wedi gostwng gan 55 y cant ers 2010, diolch i'n polisïau ni? Diolch.