1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r blaenoriaethau economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn darparu ar gyfer pobl ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53102
Rydym ni'n cymryd ystod o gamau, gan gynnwys sefydlu tasglu'r Cymoedd, i gefnogi economi gryfach a thecach, ac i ganiatáu i fusnesau ddatblygu, tyfu a ffynnu nid yn unig ym Merthyr Tudful a Rhymni, wrth gwrs, ond ar draws Cymru gyfan.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gwn, ar draws lawer o elfennau'r rhaglen lywodraethu, y gallwch chi ymfalchïo yn y ffaith eich bod wedi arwain Llywodraeth sy'n cyflawni gwelliannau yn fy etholaeth i. Byddwch yn cofio ein bod ni wedi agor ysgolion newydd ac wedi ailwampio ysgolion, ein bod ni wedi croesawu buddsoddiadau newydd, gan gynnwys General Dynamics ym Mhentre-bach, Sharp Clinical yn Rhymni, ac, wrth gwrs, gwaith deuoli parhaus ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rydym ni'n buddsoddi dros £130 miliwn mewn ailwampio Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac mae £200 miliwn arall i ddilyn, ac rydym ni'n gweld y gwaith adfywio sydd wedi gweddnewid canol ein tref, a chymorth i atyniadau twristiaeth lleol mawr, fel BikePark Cymru a Rock UK. Felly, a gaf i roi ar y cofnod fy niolch i chi, Carwyn, am eich cyfnod fel ein Prif Weinidog, ac am y cymorth yr ydych chi wedi ei roi i'm hetholaeth i? A gaf i ofyn i chi fy sicrhau y byddwch chi'n parhau i helpu i gefnogi'r ddarpariaeth o'n gwerthoedd a'n hymrwymiadau Llafur Cymru yr mor groch o'r meinciau cefn ac yr ydych chi wedi ei wneud yn y Llywodraeth?
Wel, mae hwnna'n gwestiwn arbennig o anodd y mae fy nghyd-Aelod newydd ei ofyn i mi, ond diolchaf iddi am ei sylwadau ac, wrth gwrs, yr hyn y mae hi wedi ei ddweud. Mae'n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi ym mhob rhan o Gymru. Rydym ni wedi gweld newid aruthrol i economi Merthyr a Rhymni dros y degawd diwethaf, byddwn i'n dadlau, gyda Merthyr bellach yn cael ei ystyried yn arbennig erbyn hyn fel man lle ceir buddsoddiad a swyddi wrth i Tenneco a General Dynamics, wrth gwrs, gael eu denu i'r ardal.
Byddaf yn parhau i fod mor groch ag y gallaf o'r meinciau cefn—ond heb godi trafferth—wrth gefnogi gwerthoedd yr wyf i'n credu sy'n cynrychioli tegwch, cyfiawnder a chyfle. Ac mae hynny'n rhywbeth y gwn sy'n cael ei rannu yn ddwys dros ben rhyngof i ac arweinydd Llafur Cymru, a gobeithio yfory, Prif Weinidog Cymru.
Gan mai dyma'r achlysur gorau, neu'r achlysur olaf, y byddwch chi'n ateb cwestiynau yn y Cynulliad hwn fel y Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi dderbyn fy nymuniadau gorau diffuant i a ninnau ar gyfer eich dyfodol oddi wrth yr ochr hon i'r Siambr. Yn yr ysbryd hwn o ewyllys da tymhorol, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ffaith, diolch i bolisïau economaidd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain—[Torri ar draws.]—yn Llundain, bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra ym Merthyr Tudful a Rhymni wedi gostwng gan 55 y cant ers 2010, diolch i'n polisïau ni? Diolch.
Wel, bu achlysuron, wrth gwrs, pan ein bod ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU—mae'r bargeinion dinesig yn enghraifft o hynny. Ond os edrychwn ni, er enghraifft, ar ddiweithdra yng Nghymru, mae ar lefel sy'n cyfateb i gyfartaledd y DU. Mae anweithgarwch economaidd ar ei isaf erioed, mae cyfraddau cyflogaeth ar eu huchaf erioed, roedd 18,000 o bobl ifanc yn gallu elwa ar Twf Swyddi Cymru, ac, wrth gwrs, mae'r buddsoddiad a wnaed ym Merthyr a chymunedau eraill dros flynyddoedd lawer iawn. Ac rydym ni'n gweld yr hyn sy'n digwydd pan fo Llywodraeth yn ymrwymo i gymunedau Cymru, yn buddsoddi ynddyn nhw ac yn darparu swyddi i'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.