Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Wel, yn gyntaf fe allaf i bwyntio, wrth gwrs, at beth rydym ni wedi'i wneud i sicrhau lleihad mewn tlodi plant a theuluoedd, er enghraifft, a beth rydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, gyda gofal plant. Mae hynny'n hollbwysig i sut gymaint o deuluoedd, ond, wrth gwrs, nid ydym ni'n rheoli'r system les, nid ydym ni'n rheoli'r system drethu. Mae'r gwasgiad wedi cael effaith, wrth gwrs, ar deuluoedd, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld y newidiadau yn y credydau sydd ar gael yn y system drethu. Mae'n dangos, wrth gwrs, ein bod ni fel Llywodraeth Llafur yng Nghymru yn gallu gwneud llawer, ond mae yna limit—mae hynny'n wir. Dyna pam, wrth gwrs, mae'n hollbwysig ein bod ni'n gweld Llywodraeth Lafur ar draws y Deyrnas Unedig i weithredu yn y pen draw.