1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd.
Prif Weinidog, yn eich naw mlynedd yn y swydd, beth ydych chi'n teimlo yr ydych chi wedi ei ddysgu a pha gyngor fyddech chi'n ei roi i'r Prif Weinidog newydd?
Wel, mae rhywun bob amser yn dysgu. Rydych chi bob amser yn dysgu. Nid oes byth adeg pan fyddwch chi'n gwybod popeth, yn amlwg. Pa gyngor fyddwn i'n ei roi i'm holynydd? Rwyf i wedi ei ddweud o'r blaen: mae'n hynod bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng y swydd a'ch bywyd, oherwydd mae'n bwysig cael amser i feddwl, ac nid yw gweithio ddydd a nos bob un dydd yn ffordd dda nac yn ffordd gynaliadwy o weithio. Ond mae wedi bod yn anrhydedd mawr cael gwneud y swydd hon am naw mlynedd, ac mae naw mlynedd yn ddigon.
Diolch am yr ymateb yna. Fel y gwyddoch, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb yn fuan am godi cyfran o'i refeniw trwy dreth incwm, a dyma'r maes polisi olaf yr hoffwn i ei godi gyda chi yn y Siambr hon. Diolch i Lywodraeth y DU, mae cyfraddau treth incwm i bobl sy'n gweithio ledled y DU wedi lleihau'n sylweddol ers 2010. Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn cadw mwy o'r hyn y maen nhw yn ei ennill a bydd y lwfans personol di-dreth yn cynyddu i £12,500 yn fuan. Mae dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru wedi elwa ar y cynnydd a wnaed i'r lwfans personol a'r trothwy cyfradd uwch, ac mae 41,000 o bobl yng Nghymru nac ydyn nhw'n talu unrhyw dreth incwm o gwbl erbyn hyn. Ynghyd â'r cynnydd cyson i'r cyflog byw cenedlaethol, y mae 81,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa arno, nid oes amheuaeth bod hyn wedi helpu i gryfhau marchnad lafur ac economi Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod buddiannau economaidd hirdymor Cymru yn cael eu bodloni orau trwy ddarparu sicrwydd cadarn i aelwydydd a busnesau y bydd cyfraddau treth incwm yn parhau i fod yn isel yma yng Nghymru?
Wel, bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, mai'r ymrwymiad maniffesto a roddwyd gennym fel plaid yn 2016 oedd na fyddem ni'n newid cyfraddau treth incwm. Ond, wrth gwrs, rydym ni wedi sicrhau ein bod ni wedi bwrw ymlaen gyda chymdeithas decach. Mae'n sôn am y ffaith bod llai o bobl yn talu treth, ond mae gennym ni dlodi o hyd, mae gennym ni bobl yn defnyddio banciau bwyd o hyd—mae gennym ni bobl mewn gwaith cyflogedig sy'n defnyddio banciau bwyd. Mae hynny o ganlyniad, wrth gwrs, i roi terfyn ar gredydau treth plant fel yr oedden nhw o'r blaen. Ni allwn, fel cymdeithas, does bosib, fod yn hapus pan, mewn blynyddoedd a fu, yr oeddem ni'n arfer dweud, 'Cael swydd yw'r ffordd allan o dlodi'. Nid yw hynny'n wir mwyach. Oherwydd diffyg sicrwydd sydd gan bobl yn eu swyddi a'r ffaith bod gan bobl fwy nag un swydd weithiau, ni allwn ddweud yn onest, o ddifrif calon, ei bod hi'n anochel y bydd pobl yn canfod eu hunain mewn sefyllfa well os byddant yn cael swydd. Ac mae honno'n her, wrth gwrs, i pob plaid yn y dyfodol.
Prif Weinidog, er yr holl groesi cleddyfau ar draws y Siambr hon, ni all neb fod ag unrhyw amheuaeth am yr ymdrechion a'r aberthau yr ydych chi wedi eu gwneud mewn gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Er gwaethaf ein gwahaniaethau gwleidyddol, cawsom ein huno gan ymrwymiad disyflyd i'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu ac rydych chi wedi cyflawni'r ddyletswydd honno gydag ymroddiad a selogrwydd. Felly, ar ran y meinciau hyn ac ar ran plaid Geidwadol Cymru, a gaf i ddymuno'n dda i chi a'ch teulu a dymuno pob llwyddiant i chi yn beth bynnag y byddwch yn ei wneud yn y dyfodol?
Wel, mae hynna'n garedig iawn. Yr un peth y gwnaf i ei ddweud—dim ond i dynnu ei goes—yw fy mod i'n meddwl mai dyna'r tro cyntaf mewn pedair sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog nad yw wedi defnyddio'r gair 'shambles' [Chwerthin.]. Ond rwyf yn diolch yn fawr iawn iddo am ei eiriau. Bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, bod angen dadl rymus yn y Siambr hon. Mae gennym ni, pob un ohonom ni yn y Siambr hon wahanol safbwynt o'r byd ac yn y Siambr hon y mae'n rhaid cynnal y ddadl rymus honno a phrofi syniadau. Ond bydd hefyd yn gwybod mai anaml y mae'n wir, os o gwbl, bod hynny'n cael ei barhau ar lefel bersonol. I mi, ydw, rwyf i wedi bod yma ers naw mlynedd yn ateb cwestiynau ac efallai y gwnaf i aros ar ôl hynny—pwy a ŵyr? Ond, rwy'n ddiolchgar iddo am yr hyn a ddywedodd a dymunaf yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yn y maniffesto a gyhoeddwyd yn ystod eich ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2009, 'Amser i arwain', fe ddywedoch chi, yn hollol gywir, a minnau'n dyfynnu, fod arnom angen diwylliant buddsoddi, nid diwylliant grantiau o ran ein polisi economaidd ni. Eto, rai dyddiau nôl, dywedoch chi taw'r cyflawniad economaidd rŷch chi'n fwyaf balch ohono oedd helpu achub cwmni dur Tata ym Mhort Talbot a dod ag Aston Martin i Sain Tathan. Ai dyna'r weledigaeth fawr newydd, y model newydd, yr oedd gennych chi mewn meddwl naw mlynedd yn ôl?
Roedd hi'n hollbwysig i sicrhau swyddi gweithwyr Tata, ac rwy'n falch dros ben ein bod ni wedi sicrhau hynny. Mae'n hollbwysig i sicrhau y byddwch chi'n gallu denu buddsoddiad o dramor ac o weddill y Deyrnas Unedig, ac rŷm ni wedi bod yn llwyddiannus iawn ynglŷn â gwneud hynny. Os rwy'n deall, y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yw beth, felly, ydym ni'n ei wneud i fusnesau bach. Beth ydym ni'n ei wneud i hybu diwylliant o entrepreneuriaeth yng Nghymru? Ac nid wyf i'n gweld ein bod ni'n gallu gwneud yr un a heb wneud y llall. Felly, wrth gwrs, mae gennym ni'r banc datblygu sydd wedi cael ei sefydlu. Rŷm ni'n gweld mwy o fusnesau'n cael eu creu yng Nghymru, a hefyd, wrth gwrs, yr her fwyaf yw sicrhau nad yw'r busnesau hynny sydd yn tyfu yn gwerthu i gwmni mawr ond yn gweld eu bod nhw eisiau tyfu ac yn gallu tyfu i mewn i gwmnïau a busnesau mawr. Un o'r gwendidau sydd gennym ni yn economi Cymru yw taw bach iawn o gwmnïau mawr neu sefydliadau mawr sydd gennym ni yng Nghymru lle mae pencadlys gyda nhw yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i weld yn newid yn y dyfodol.
Naw mlynedd yn ôl, yn eich maniffesto hefyd, roeddech chi wedi dweud bod tlodi plant yn parhau i fod yn bla ar ormod o'n cymunedau. A ydych chi'n difaru, felly, fod tlodi plant o dan eich gofal chi wedi cynyddu, gan effeithio nawr ar dros un ym mhob tri o blant yng Nghymru? Ac os felly, sut ydych chi'n cyfiawnhau'r ffaith eich bod chi, yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, wedi gollwng eich targed chi ar gyfer lleihau tlodi plant erbyn diwedd y ddegawd yma? Ble oedd y ddegawd o ddelifro mewn gwirionedd ar gyfer plant Cymru? Wrth gwrs, mae arweinydd newydd gyda'r Blaid Lafur nawr, sydd hefyd wedi dweud bod tlodi plant yn mynd i fod yn flaenoriaeth, ac mae hynny i'w groesawu. Ond onid yw hyn yn nodweddiadol, a dweud y gwir, o weinyddiaethau Llafur, yn mynd yn ôl dros 20 mlynedd: datganiadau mawr o fwriad, camau bach, diffyg cynnydd, ac ar gyfer cannoedd o filoedd o'n plant a'n pobl, dim gobaith o gwbl?
Wel, yn gyntaf fe allaf i bwyntio, wrth gwrs, at beth rydym ni wedi'i wneud i sicrhau lleihad mewn tlodi plant a theuluoedd, er enghraifft, a beth rydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, gyda gofal plant. Mae hynny'n hollbwysig i sut gymaint o deuluoedd, ond, wrth gwrs, nid ydym ni'n rheoli'r system les, nid ydym ni'n rheoli'r system drethu. Mae'r gwasgiad wedi cael effaith, wrth gwrs, ar deuluoedd, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld y newidiadau yn y credydau sydd ar gael yn y system drethu. Mae'n dangos, wrth gwrs, ein bod ni fel Llywodraeth Llafur yng Nghymru yn gallu gwneud llawer, ond mae yna limit—mae hynny'n wir. Dyna pam, wrth gwrs, mae'n hollbwysig ein bod ni'n gweld Llywodraeth Lafur ar draws y Deyrnas Unedig i weithredu yn y pen draw.
Ie, ond, Prif Weinidog, nid yw'n ddigon, nad ydyw, i roi'r bai ar San Steffan am ein holl ofidiau? Nododd adroddiad diweddar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar dlodi yng Nghymru bod cyfraddau tlodi yng Nghymru wedi wedi cynyddu'n gyflymach yng Nghymru nag ar draws y DU, a nododd adroddwr y Cenhedloedd Unedig ar dlodi y mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth yr Alban y gellid bod wedi eu cymryd yma yng Nghymru i ddarparu o leiaf rhywfaint o ddiogelwch i'n pobl, pe byddech chi wedi dadlau'r achos dros ddatganoli.
Nawr, naw mlynedd yn ôl dywedasoch hefyd yn eich maniffesto, gan nodi eich dyheadau arweinyddiaeth—mynegwyd gennych mai un blaenoriaeth fyddai, a dyfynnaf, buddsoddi mewn strategaeth drafnidiaeth werdd ac archwilio ymarferoldeb ailagor rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth.
Ac eto, yn ystod eich cyfnod yn y swydd, yr un fenter trafnidiaeth i chi gael eich cysylltu fwyaf â hi yw adeiladu ffordd liniaru 14 milltir yr M4—cynnig yr wyf i'n awgrymu yn dringar nad yw'n dangos dull gwyrdd o ymdrin â thrafnidiaeth. Ac nid yw ychwaith wedi bod yn un y mae eich Llywodraeth wedi gallu gwneud penderfyniad ynglŷn ag ef. Roedd rhai yn meddwl mai'r ffordd liniaru fyddai eich penderfyniad olaf yn y swydd, er ein bod ni'n gwybod erbyn hyn nad yw hynny'n mynd i fod yn wir. Felly, a gaf i gynnig dewis amgen i chi, Prif Weinidog? Mae'r astudiaeth a addawyd gennych naw mlynedd yn ôl ar reilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth newydd gael ei chyhoeddi. Gwelsom y lluniau o Aberystwyth—tref eich alma mater, wrth gwrs—ar y rhaglen neithiwr. Os nad ydych chi eisiau gwneud argymhelliad i'ch olynydd ynglŷn â ffordd, beth am wneud hynny ynglŷn â rheilffordd? Oni fyddai honno'n etifeddiaeth y gallech chi fod yn haeddiannol falch ohoni?
Wel, wrth gwrs, mae temtasiwn direidus i ymrwymo i unrhyw beth yn eich sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf, ond mae'n well i mi beidio â gwneud hynny. [Chwerthin.] Mae rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth yn brosiect sy'n agos at fy nghalon, er bod iddo gost aruthrol yn amlwg. Codwyd y rheilffordd ei hun i raddau helaeth ym 1975, er bod rhan ohoni allan o ddefnydd o'r 1960au ymlaen, a cheir bylchau sylweddol ar y rheilffordd hefyd y byddai angen eu hystyried. Byddwn yn rhybuddio yn erbyn dweud, 'Wel, nid ffyrdd yw'r ateb.' Mae ffordd osgoi Llandeilo yn un ffordd, wrth gwrs, y gwn y bydd yn ei chefnogi, ac nid wyf i'n anghytuno ag ef—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n anghytuno ag ef. Rwy'n adnabod Llandeilo ac rwy'n ymwybodol o'r problemau traffig yno, felly rwy'n deall y pwynt, ond mae'r cwestiwn—[Torri ar draws.] Mae'r cwestiwn y mae'n ei ofyn am bolisi trafnidiaeth gwyrdd. Wel, wrth gwrs, roedd metro de Cymru yn rhywbeth yr oeddwn i'n arbennig o awyddus i'w gyflwyno, os mai dyna'r—wel, nid dyna'r ymadrodd cywir. Ond i ddechrau, roedd yn brosiect a grybwyllais gyntaf flynyddoedd lawer yn ôl yng nghlwb rygbi Bedwas, o bob man, a nawr, wrth gwrs, rydym ni'n gweld map ymlaen ar gyfer y metro. Rydym ni'n gwybod na ellir datrys y problemau traffig, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol, gyda ffyrdd; nid yw hynny'n bosibl. Ni fyddai ateb metro yn iawn i Landeilo, gadewch i ni fod yn onest am hynny, ond i lawer o'n cymunedau yng Nghymru—. Y gwir amdani yw nad oes unrhyw ffordd o ledaenu'r ffyrdd i mewn i Gaerdydd. Mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gwasanaethau amlach, gwasanaethau gwell, trenau â systemau aerdymheru, pris priodol y mae'n rhaid i bobl ei dalu am y gwasanaethau hynny i annog mwy o bobl oddi ar y ffyrdd. Ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n edrych ymlaen at ei weld yn datblygu dros flynyddoedd lawer i ddod.
Arweinydd grŵp UKIP—Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Fel y gwyddom, Prif Weinidog, heddiw yw eich sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf. Credaf efallai nad yw hwn yn achlysur i fod yn rhy ddadleuol, ac efallai y gallai'r ddau ohonom ni fod ychydig yn fwy myfyriol heddiw. Nawr, rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog am naw mlynedd, roeddech chi'n Weinidog am bron cymaint o flynyddoedd cyn hynny, felly rydych chi wedi bod yn ganolog i Lywodraeth Cymru am bron cyhyd ag y mae wedi bodoli. Faint o farciau allan o 10 fyddech chi'n eu rhoi i berfformiad Llywodraeth Cymru yn ystod eich amser yn y swydd?
Deg. [Chwerthin.]
Ai dyna'r ateb? [Chwerthin.] Mae hwnnw'n ateb diddorol, ond efallai y bydd gen i werthusiad gwahanol. A oes meysydd efallai lle'r ydych chi'n credu y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi perfformio yn well?
Rwy'n credu mai'r un her sydd ar ôl, ac rwyf i wedi dweud hyn yn gyhoeddus, yw llywodraeth leol. Rwy'n credu nad ydym ni wedi gorffen y gwaith o ran llywodraeth leol. Mater i'r Llywodraeth nesaf, wrth gwrs, yw penderfynu sut i fwrw ymlaen â phethau, ond rydym ni'n gwybod bod gweithio rhanbarthol wedi bod yn llwyddiannus dros ben, ac ni allwn gymryd cam yn ôl pan ddaw i hynny. Rydym ni wedi gweld y canlyniadau ym maes addysg; mae'n rhaid i'r un peth ddigwydd ym maes cynllunio, mae'n rhaid i hynny ddigwydd yn y gwasanaethau cymdeithasol. Efallai fod hwnnw'n un maes yr wyf i'n credu nad yw wedi ei ddatrys o hyd—maes pwysig hysbys nad yw, yn fy marn i, wedi ei ddatrys eto a mater, wrth gwrs, i'r Llywodraeth nesaf.
Cawsoch sylw ar raglen BBC Wales neithiwr, Being First Minister—rhaglen ddiddorol iawn—pryd y dywedasoch:
Yr hyn y mae'r cyhoedd yng Nghymru eisiau ei weld yw cyflawni. Nid oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn mecaneg; lol yw'r gweddill. Nid yw'n cyfrif cyn belled ag y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn y cwestiwn.
Diwedd y dyfyniad. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd ar sut i leihau'r lol, fel yr ydych chi'n ei alw, a beth yw'r ffordd orau i gyflawni ar ran y cyhoedd yng Nghymru?
Wel, fel y dywedais yn y rhaglen, yr hyn sy'n cyfrif i unrhyw bolisi neu unrhyw ddeddfwriaeth yw eu bod nhw'n cael sylw cadarnhaol gan bobl allan y tu allan i'r fan yma. Wrth gwrs, mae'r broses o fireinio'r ddeddfwriaeth honno yn bwysig, ond nid yw'r cyhoedd yn sylwi ar hynny. Yr hyn sy'n bwysig, pan fyddwn ni'n gwneud rhywbeth yn y fan yma, yw bod pobl yn dweud, 'Mae hynna wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n bywydau.' Nawr, nid wyf i am fynd trwy restr fel yr wyf i'n ei wneud fel arfer mewn sesiynau cwestiynau i'r Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Iawn. [Chwerthin.] Ond yr un darn o ddeddfwriaeth yr wyf i'n credu y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono, a rhoddaf glod i Dai Lloyd amdano, oherwydd ei syniad ef oedd e'n wreiddiol, yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013. Mae pobl yn fyw heddiw, yn llythrennol, o ganlyniad i'r Ddeddf honno. Gwn fod pryderon ac amheuon ymhlith rhai Aelodau. Nid oedd pawb yn gwbl gyfforddus â'r cyfeiriad a oedd yn cael ei ddilyn, ond rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth yr wyf i'n ymfalchïo ynddo fel Prif Weinidog, ond credaf hefyd y gall y sefydliad hwn ymfalchïo ynddo o ran arwain y ffordd ar draws y DU gyfan ac o ran sicrhau bod gobaith i bobl nad oedd unrhyw obaith iddyn nhw o'r blaen. Nid wyf i'n credu bod dim byd pwysicach y gallwn ni geisio ei gyflawni, ac mae hynny'n rhywbeth, fel y dywedais, y gall y Siambr hon fod yn falch ohono, a hynny'n gwbl briodol.