Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yn y maniffesto a gyhoeddwyd yn ystod eich ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2009, 'Amser i arwain', fe ddywedoch chi, yn hollol gywir, a minnau'n dyfynnu, fod arnom angen diwylliant buddsoddi, nid diwylliant grantiau o ran ein polisi economaidd ni. Eto, rai dyddiau nôl, dywedoch chi taw'r cyflawniad economaidd rŷch chi'n fwyaf balch ohono oedd helpu achub cwmni dur Tata ym Mhort Talbot a dod ag Aston Martin i Sain Tathan. Ai dyna'r weledigaeth fawr newydd, y model newydd, yr oedd gennych chi mewn meddwl naw mlynedd yn ôl?