Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Rwy'n credu mai'r un her sydd ar ôl, ac rwyf i wedi dweud hyn yn gyhoeddus, yw llywodraeth leol. Rwy'n credu nad ydym ni wedi gorffen y gwaith o ran llywodraeth leol. Mater i'r Llywodraeth nesaf, wrth gwrs, yw penderfynu sut i fwrw ymlaen â phethau, ond rydym ni'n gwybod bod gweithio rhanbarthol wedi bod yn llwyddiannus dros ben, ac ni allwn gymryd cam yn ôl pan ddaw i hynny. Rydym ni wedi gweld y canlyniadau ym maes addysg; mae'n rhaid i'r un peth ddigwydd ym maes cynllunio, mae'n rhaid i hynny ddigwydd yn y gwasanaethau cymdeithasol. Efallai fod hwnnw'n un maes yr wyf i'n credu nad yw wedi ei ddatrys o hyd—maes pwysig hysbys nad yw, yn fy marn i, wedi ei ddatrys eto a mater, wrth gwrs, i'r Llywodraeth nesaf.