Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Rydym ni'n datblygu fframwaith mesur eglur a chyson ar draws y Llywodraeth gyda'r dangosyddion llesiant. Byddwn yn defnyddio'r rheini i olrhain ein cynnydd economaidd dros y tymor hwy, ac rydym ni'n gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a phartneriaid eraill i ddysgu o arfer gorau ledled y byd.