1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu dull Llywodraeth Cymru o bennu targedau ar gyfer yr economi? OAQ53078
Rydym ni'n datblygu fframwaith mesur eglur a chyson ar draws y Llywodraeth gyda'r dangosyddion llesiant. Byddwn yn defnyddio'r rheini i olrhain ein cynnydd economaidd dros y tymor hwy, ac rydym ni'n gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a phartneriaid eraill i ddysgu o arfer gorau ledled y byd.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am hynna, ac a gaf innau hefyd ychwanegu fy nymuniadau gorau iddo ar gyfer y dyfodol? Gan gymryd coedwigaeth fel enghraifft, mae gennym ni dargedau hirdymor wedi eu pennu ond ni chyhoeddwyd targedau blynyddol na thargedau ardal. Oni fyddai'n helpu craffu a pherfformiad pe byddai targedau o'r fath yn cael eu pennu a'i cyhoeddi, fel y gallem ni weld y camau ar y daith, nid dim ond ble'r ydym ni'n ceisio ei gyrraedd yn y pen draw?
Rwy'n credu os edrychwn ni ar yr ystadegau economaidd—y rhai a gyhoeddwyd heddiw yn sicr—byddwn yn gweld bod pethau wedi gwella'n helaeth dros y flwyddyn ddiwethaf a thu hwnt. Wrth gwrs, mae'r cynllun gweithredu economaidd wedi gwneud cynnydd da ers ei gyflwyno. Mae gennym ni'r model gweithredu newydd. Ers mis Mai, rydym ni wedi cwblhau mwy na 70 o gontractau economaidd gyda busnesau, ac maen nhw'n fusnesau o wahanol feintiau. Dydyn nhw ddim i gyd yn fusnesau mawr, maen nhw mewn gwahanol sectorau ac mewn gwahanol rannau o Gymru, ac, wrth gwrs, rydym ni'n derbyn llif o gynigion buddsoddi gan fusnesau sy'n cyfochri â nhw.
O ran targedau, wel, yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud, wrth gwrs, yw gwella economi Cymru ledled Cymru. Gallwn weld hynny yn yr ystadegau—mae'r ystadegau yn adrodd yr hanes i ni. Maen nhw'n dargedau y byddem ni eisiau eu gwella yn y blynyddoedd i ddod, ac rydym ni wedi gweld gwelliant aruthrol yn ystod y degawd diwethaf.
Mae gan Gymru heriau economaidd strwythurol sylweddol, ac rwy'n credu eich bod chi wedi bod yn iawn dros y blynyddoedd i dynnu sylw at y rhwystrau hynny i dwf. Mewn ysbryd o gyd-gydnabyddiaeth o heriau Cymru, o ran dymuniad i hynt economaidd Cymru ffynnu, beth ydych chi'n ei gredu yw'r prif wersi yr ydych chi wedi eu dysgu o reoli economi Cymru dros y naw mlynedd diwethaf? Beth ydych chi'n ei gredu yw'r meysydd polisi economaidd a fyddai'n elwa fwyaf ar fwy o gydweithrediad rhwng y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru?
Mae hyn yn dechrau swnio fel cyfweliad am swydd, o ystyried y cwestiwn yna. I mi, mae dau beth sy'n hanfodol, ac mae'r rhain yn faterion a godwyd gyda mi lawer iawn o weithiau. Y cyntaf yw ei bod hi'n hynod bwysig cyfleu delwedd Cymru ledled y byd—i fynd allan a gwerthu Cymru. Ni wnaiff neb arall ei wneud, ac mae'n aruthrol o bwysig bod gennym ni deithiau masnach. Bydd rhai o'r teithiau masnach hynny yn cael eu harwain gan Weinidogion, neu gan Brif Weinidog. Maen nhw'n agor drysau na fyddai'n cael eu hagor fel arall, ac mae hynny wedi arwain at i ni allu, er enghraifft, gyrraedd sefyllfa lle mae Qatar Airways yn hedfan o Gaerdydd. Mae'r gwaith rhyngwladol yn bwysig, ac mae ein swyddfeydd rhyngwladol yn hynod bwysig i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod bod Cymru yno a'r hyn sydd gennym ni i'w gynnig.
Ond sgiliau yw'r ail bwynt. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi'n aml pan oeddwn i'n arfer siarad â busnesau mewn gwledydd eraill—ac, yn wir, busnesau yng Nghymru—oedd, 'O ble ydym ni'n mynd i gael y sgiliau? A yw'r biblinell sgiliau sydd ei hangen arnom er mwyn ffynnu yng Nghymru gennym ni?' Yn gynyddol, roeddem ni'n gallu gwneud hynny. Roeddem ni'n gallu dweud—oherwydd ein bod wedi edrych ar sectorau penodol lle'r oedd gennym ni fusnesau llwyddiannus eisoes, roeddem ni'n gallu dweud, 'Mae piblinell sgiliau ar gael—mae yno, ac, a dweud y gwir, gallwch weithio gyda'ch gilydd i greu'r biblinell sgiliau honno gyda busnes sy'n debyg i'ch un chi.'
Mae hwnnw wedi bod yn newid mawr. Ystyriwyd Cymru fel economi cost isel, cyflog isel a sgiliau isel ar un adeg. Ni allwn fforddio bod yn y sefyllfa honno eto, ac ni fyddai neb eisiau i ni fod yn y sefyllfa honno eto yn y Siambr hon. Yr hyn y gallwn ni ei wneud yw cael mwy fyth o bwyslais ar sgiliau, oherwydd, drwy wneud hynny, dyna'r ffordd yr ydych chi'n dod â swyddi tra medrus i Gymru. Dyna'r ffordd hefyd yr ydych chi'n annog entrepreneuriaid i ddod yn eu blaenau, oherwydd eu bod yn gallu gweithio gyda phobl eraill i ddatblygu busnesau yng Nghymru ac i wireddu eu breuddwydion. Oherwydd rydym ni'n gwybod, yn hanesyddol, nad ydym ni wedi gwneud yn dda yng Nghymru gydag entrepreneuriaid yn teimlo y gallan nhw ddatblygu eu busnes. Mae llawer o bobl wedi cael syniadau da ac nid ydynt wedi bwrw ymlaen â nhw. Rwy'n credu ein bod ni wedi mynd heibio'r cam hwnnw erbyn hyn, yn enwedig gyda phobl ifanc, ond y pwyslais yw sgiliau, sgiliau, sgiliau.