Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Prif Weinidog, mae gan y fargen ddinesig ran fawr i'w chwarae o ran gwella economi fy rhanbarth i, ac felly hefyd cydweithio gwirioneddol rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae mentrau bach a chanolig eu maint y rhanbarth angen Llywodraeth sy'n deall eu hanghenion pan ddaw i seilwaith a rheoleiddio. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd pan ddaw i greu'r amgylchedd iawn i fusnesau Cymru oroesi?