Datblygu Economaidd yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ein bod ni'n gwneud hynny eisoes, a chredaf mai'r hyn sy'n bwysig, yn fwy nag unrhyw beth arall, yw bod y byd busnes yn gwybod bod y Llywodraeth yno i'w helpu, i'w gynorthwyo, ond nid i ymyrryd ag ef. Mae llywodraeth yn gweithio orau pan fydd yn gweithio ochr yn ochr â'r byd busnes, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ymdrechu i'w wneud dros y degawd diwethaf ac, wrth gwrs, mae'r ffigurau economaidd yn dangos bod y dull hwnnw wedi bod yn llwyddiannus. Wrth gwrs, mater i'r Llywodraeth newydd yw penderfynu pa gyfeiriad y bydd yn ei ddilyn, ond mae'n eithriadol o bwysig—ac mae hyn yn rhywbeth y mae busnesau wedi ei ddweud wrthyf i lawer iawn o weithiau—ein bod ni'n cydweithio'n agos. Gwlad fach ydym ni; rydym ni'n gweithio'n agos rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.