Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Gwnaf. Rwy'n cofio fy rhagflaenydd, Rhodri Morgan, yn ysgrifennu erthygl yn y Western Mail pryd y dywedodd y byddai fy holl amser fel Prif Weinidog yn cael ei farnu ar berfformiad Maes Awyr Caerdydd. Ar y sail honno, rwy'n gwbl fodlon i gael fy marnu, felly, ar hynny. Bydd gan bobl eraill wahanol safbwyntiau—rwy'n deall hynny—ond, wrth gwrs, mae gan Faes Awyr Caerdydd gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf a gweledigaeth hyd at 2040. Maen nhw i'w gweld yn uwchgynllun y maes awyr a lansiwyd ar y cyd gennym ni a'r maes awyr ym mis Gorffennaf.