1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2018.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer datblygu Maes Awyr Caerdydd? OAQ53108
Gwnaf. Rwy'n cofio fy rhagflaenydd, Rhodri Morgan, yn ysgrifennu erthygl yn y Western Mail pryd y dywedodd y byddai fy holl amser fel Prif Weinidog yn cael ei farnu ar berfformiad Maes Awyr Caerdydd. Ar y sail honno, rwy'n gwbl fodlon i gael fy marnu, felly, ar hynny. Bydd gan bobl eraill wahanol safbwyntiau—rwy'n deall hynny—ond, wrth gwrs, mae gan Faes Awyr Caerdydd gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf a gweledigaeth hyd at 2040. Maen nhw i'w gweld yn uwchgynllun y maes awyr a lansiwyd ar y cyd gennym ni a'r maes awyr ym mis Gorffennaf.
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am sicrhau dyfodol Maes Awyr Caerdydd, a hefyd croesawu, fel y mae ef wedi ei wneud, y ffigurau teithwyr diweddaraf, sy'n dangos yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, bod cyfanswm y teithwyr wedi tyfu gan 9 y cant o un flwyddyn i'r llall i gyrraedd 1.48 miliwn. A hefyd, dim ond i ddilyn sylwadau y gwn eich bod chi wedi eu gwneud yn gyson, Prif Weinidog, i Lywodraeth y DU ynghylch datganoli toll teithwyr awyr—mae cefnogaeth drawsbleidiol i hynny, wrth gwrs—mae'n eglur y byddai'n cael effaith fuddiol i Faes Awyr Caerdydd ac i Gymru, felly beth ydych chi'n ei gredu yw ein cyfeiriad o ran y trafodaethau hynny?
Yn gyntaf oll, mae wedi bod yn bleser mawr i mi yn bersonol gweld y twf yn y maes awyr. Hoffwn dalu teyrnged i Roger Lewis, i Debra Barber ac i bawb sy'n gweithio yn y maes awyr sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau ei ddyfodol. Roeddwn i'n gwybod bod dyfodol yno pe byddai'n cael ei redeg yn iawn, a dyna'r oeddem ni'n bwriadu ei wneud, a dyna pam, wrth gwrs, na wnaethom ni geisio ei redeg ein hunain trwy wleidyddion neu weision sifil; cafodd ei redeg ac mae'n cael ei redeg gan gwmni hyd braich. A gwelwn, wrth gwrs, y twf mawr i nifer y teithwyr a fu yn y cyfnod hwnnw.
Mae'r doll teithwyr awyr yn siom enfawr. Mae yn etholaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac mae'n drueni mawr nad yw wedi gallu darparu'r doll teithwyr awyr i'r maes awyr. Mae ef gan yr Alban; mae trafodaethau yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Y gwir reswm—. Mae dau reswm pam nad ydym ni wedi ei chael. Yn gyntaf, mae'r Trysorlys yn edifarhau'n fawr iawn ei rhoi i'r Alban, felly nid ydyn nhw eisiau ei rhoi i ni. Yn ail, mae Liam Fox yn cynrychioli, os cofiaf yn iawn, yr ardal y mae Maes Awyr Bryste ynddi, ac nid wyf i'n meddwl ei fod wedi bod yn arbennig o gefnogol i'r doll teithwyr awyr. Mae Bryste wedi dweud bod Caerdydd yn fygythiad i'r maes awyr. Nid wyf i'n ei gweld hi felly. Mae angen Bryste arnom ni oherwydd os bydd digwyddiadau mawr yn y stadiwm, mae angen Maes Awyr Bryste arnom ni; nid ydym ni'n ceisio achosi niwed i Faes Awyr Bryste. Ond credaf bod gan Gaerdydd botensial enfawr o ran teithiau pell, yn arbennig. Mae manteision mwy sydd gan Fryste, a hyd yn oed pe byddai toll teithwyr awyr teithiau pell yn cael ei datganoli, byddai hynny'n hybu twf aruthrol i nifer y teithwyr yn y maes awyr a hefyd, wrth gwrs, yn cymryd rhywfaint o bwysau—gadewch i ni beidio â gor-ddweud—ond rhywfaint o bwysau oddi ar Heathrow. A Chaerdydd yw'r maes awyr yn rhan orllewinol yr ynys sydd yn y sefyllfa orau i ymdrin â'r traffig teithiau pell hwnnw. Mae'n drueni mawr na all Llywodraeth y DU weld hynny, ac na all weld y byddai'n helpu i gymryd y pwysau oddi ar feysydd awyr Llundain.
Mae'n eironig, rwy'n credu, gyda'r cloc yn symud yn ei flaen, efallai mai hwn fydd y cwestiwn olaf, a gadawaf fy sylwadau ar y datganiad nesaf ar eich cyfnod fel Prif Weinidog, os caf i, Prif Weinidog. Ond rydych chi a minnau wedi dadlau lawer gwaith yn y Siambr hon ynghylch Maes Awyr Caerdydd, a bydd yn ddiddorol gweld, ar ôl y £100 miliwn a mwy y mae Llywodraeth Cymru wedi ei fuddsoddi yn y maes awyr—hirhoedledd y cyfleuster hwnnw. Mae'n hanfodol bod gennym ni faes awyr, ond mae hefyd yn hanfodol eich bod chi'n dod â phartneriaid preifat i mewn i gynorthwyo'r maes awyr, yr wyf i'n credu, er tegwch i chi, Prif Weinidog, eich bod chi wedi cyfeirio ato fel nod i Lywodraeth Cymru. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran denu partneriaid preifat i ddod i mewn a chymryd cyfran, neu gymryd rhyw fath o ecwiti yn y maes awyr, a fydd yn hwyluso mwy o fuddsoddiad? Dychwelaf at fy sylwadau bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £100 miliwn yn y maes awyr hyd yma. Yn amlwg nid yw hynny'n gynaliadwy ynddo'i hun, felly mae angen ecwiti preifat.
Yn gyntaf oll, roedd prynu'r maes awyr, os cofiaf yn iawn, yn costio £52 miliwn, ac yna, wrth gwrs, bu cyfres o fenthyciadau a roddwyd ar gael i'r maes awyr. Nid yw'r arian hwnnw wedi ei golli. Fy mwriad erioed oedd y byddai'r maes awyr yn cynyddu mewn gwerth, ac mae wedi gwneud hynny, ymhell y tu hwnt i'r pris prynu a dalwyd gennym. Ac y byddai adeg yn dod pan fyddai ecwiti preifat yn cymryd rhan. Mae'n anodd gweld sefyllfa lle na fyddai gan Lywodraeth Cymru gyfranddaliad euraidd mewn unrhyw gwmni, ond yn sicr, byddem yn croesawu buddsoddiad preifat yn dod i helpu'r maes awyr i ddatblygu. Pryd fyddai hynny'n digwydd fu'r cwestiwn erioed. Pan siaradais â Qatar Airways ar ddechrau'r flwyddyn, gofynnais am farn eu prif weithredwr. Ei farn ar yr adeg honno oedd, 'Wel, peidiwch â'i wneud eto.' Mae amser i'r maes awyr dyfu o hyd, ond daw amser pan fydd edrych ar bartneriaid preifat yn dod yn rhan o ddyfodol y maes awyr.
Mae ganddo ddyfodol cyffrous, a'r un peth, eto, y gofynnwyd i mi ers talwm oedd, 'A oes gan Gymru faes awyr rhyngwladol?' Gwn ei fod yn y de, a gwn nad yw pobl y gogledd yn mynd i ddefnyddio Caerdydd rhyw lawer, ond roedd yn hynod o bwysig yn symbolaidd bod gennym ni faes awyr rhyngwladol. Nid oedd hynny'n golygu y dylem ni gymryd cyfrifoldeb am rywbeth a oedd yn anobeithiol nad oedd byth yn mynd i weithio, ond rydym ni wedi gweld gyda'r holl deithiau sy'n hedfan i mewn i Gaerdydd nawr, gyda gwaith ailwampio'r maes awyr, bod gennym ni faes awyr yn y de y gallwn ni fod yn falch ohono. Ac os oedd Rhodri yn iawn o ran fy marnu i ar fy mherfformiad ar sail y maes awyr, yna gallaf ond bod yn fodlon.
A dweud y gwir, mae maes awyr Ynys Môn yn dibynnu ar Faes Awyr Caerdydd a llwyddiant Maes Awyr Caerdydd. Mae Brexit yn fygythiad i’r ddau ohonyn nhw o ran rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus, y public service obligations. Efo’r Undeb Ewropeaidd yn ymddangos yn eiddgar i roi mwy o hyblygrwydd i gyflwyno rhagor o hediadau, mae Llywodraeth Prydain yn gwrthod hynny. Mi gawsom ni ddatganiad ar hyn ddoe gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth. A wnewch chi annog y Prif Weinidog newydd a phwy bynnag fydd yr Ysgrifennydd trafnidiaeth newydd i bwyso mor drwm â phosib ar Lywodraeth Prydain rŵan i wneud y cais i’r Undeb Ewropeaidd i ganiatáu'r hyblygrwydd yma er mwyn annog a chaniatáu rhagor o hediadau yn Ynys Môn a Chaerdydd o dan y trefniadau Ewropeaidd yma cyn Brexit?
Bydd y gwaith yn parhau. Mae’n wir i ddweud bod dyfodol Maes Awyr Môn yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd a dyna pam, wrth gwrs, rwyf i wedi bod mor gefnogol dros y blynyddoedd o’r gwasanaeth awyr rhwng y ddau faes awyr. Rwy’n gwybod bod yr hanes wedi bod yn anodd, nawr ac yn y man, ond mae yna wasanaeth ar hyn o bryd sydd gyda’r gorau. Rydym ni’n gweld bod mwy o bobl yn dechrau defnyddio’r awyrennau achos y ffaith bod yr awyren yn fwy. Mae rhai pobl ddim yn hoffi mynd ar awyrennau sydd yn llai. Mae yna gyfleoedd hefyd yn fy meddwl i i Faes Awyr Môn—ym mha ffyrdd a allwn ni gysylltu Môn mewn i Gaerdydd er mwyn bod pobl yn hedfan o Fôn i Gaerdydd a mas eto, yn yr un ffordd ag y maen nhw’n hedfan o Gaerdydd efallai i Schiphol, neu nawr i Doha? Mae yna gyfleoedd fanna i ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael o Faes Awyr Môn, nid dim ond i gysylltu Cymru o’r gogledd i’r de ond i gysylltu Ynys Môn a Gwynedd, trwy Gaerdydd, i weddill Ewrop.
Diolch i’r Prif Weinidog.