Datblygu Maes Awyr Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:20, 11 Rhagfyr 2018

Bydd y gwaith yn parhau. Mae’n wir i ddweud bod dyfodol Maes Awyr Môn yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd a dyna pam, wrth gwrs, rwyf i wedi bod mor gefnogol dros y blynyddoedd o’r gwasanaeth awyr rhwng y ddau faes awyr. Rwy’n gwybod bod yr hanes wedi bod yn anodd, nawr ac yn y man, ond mae yna wasanaeth ar hyn o bryd sydd gyda’r gorau. Rydym ni’n gweld bod mwy o bobl yn dechrau defnyddio’r awyrennau achos y ffaith bod yr awyren yn fwy. Mae rhai pobl ddim yn hoffi mynd ar awyrennau sydd yn llai. Mae yna gyfleoedd hefyd yn fy meddwl i i Faes Awyr Môn—ym mha ffyrdd a allwn ni gysylltu Môn mewn i Gaerdydd er mwyn bod pobl yn hedfan o Fôn i Gaerdydd a mas eto, yn yr un ffordd ag y maen nhw’n hedfan o Gaerdydd efallai i Schiphol, neu nawr i Doha? Mae yna gyfleoedd fanna i ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael o Faes Awyr Môn, nid dim ond i gysylltu Cymru o’r gogledd i’r de ond i gysylltu Ynys Môn a Gwynedd, trwy Gaerdydd, i weddill Ewrop.