2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:32, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel y dywedwyd gennych, rydych wedi arwain eich plaid a'ch gwlad am naw mlynedd, ac fel y dywedwyd eisoes yn y Siambr hon yn gynharach heddiw, rydych wedi bod yn aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru ers dros 18 mlynedd—bron cyn hired â'ch cyn gyd-Aelod yn y Llywodraeth, yr Aelod dros Fro Morgannwg. Wrth gwrs, yn ystod y cyfnod hwnnw, rydych wedi bod â llawer o bortffolios mawr—addysg, yr amgylchedd, amaethyddiaeth a Chwnsler Cyffredinol—yn ogystal â'r swydd gyhoeddus uchaf yng Nghymru. Ychydig iawn o bobl sy'n ennill y fraint o arwain eu gwlad, heb sôn am wneud hynny am gyfnod o ddegawd bron iawn.

Mae etifeddiaeth yn bwysig mewn gwleidyddiaeth, ac mae'n wir dweud y bydd llawer o bobl yn cofio eich amser yn Brif Weinidog am wahanol bethau ac am wahanol resymau. Gall y penderfyniadau a wnawn ni'r gwleidyddion, yn enwedig pan fyddwn mewn swydd uchel, gael effaith sylweddol ar ein cenedl ac ar bobl unigol. Gallan nhw effeithio ar bobl er gwell ac er gwaeth. Ambell waith ni fyddwn yn gallu ystyried y canlyniadau y bydd ein penderfyniadau yn eu cael, ond fe fyddan nhw'n cael eu heffaith, serch hynny. Byddwn yn dymuno ein bod wedi gwneud rhai penderfyniadau ynghynt, a byddwn yn edifar am rai eraill, ond maen nhw i gyd yn rhan o'n stori a'r etifeddiaeth a fydd yn waddol ar ein holau.

Yn bersonol, yn Aelod o'r Cynulliad ers 2007, rwyf wedi eich cael chi'n hawdd troi atoch ac yn ddidwyll, yn arbennig pan wyf wedi codi materion a oedd yn peri pryder. Mae bod yn gynrychiolydd etholedig yn rhoi cyfrifoldebau ychwanegol arnom, ac mae hynny'n burion, gan ein bod yn mynd i mewn i fyd gwleidyddiaeth gyda'n llygaid yn agored. Ond mae'n rhoi cyfrifoldebau ychwanegol ar ein teuluoedd hefyd, a gall hynny fod yn anodd iawn weithiau. Rydym yn gofyn llawer gan ein teuluoedd a'n hanwyliaid o bryd i'w gilydd. Yn Brif Weinidog, rwy'n deall y craffu ychwanegol a'r pwysau a fu ar eich teulu, ac rwy'n siŵr bod eu teimladau preifat o ryddhad yn sgil eich penderfyniad i ymddiswyddo yn hafal i'r edmygedd a'r balchder am y gwaith yr ydych wedi ei wneud yn ystod y naw mlynedd diwethaf.

Er ein bod ni wedi tynnu'n groes yn wleidyddol lawer tro ac wedi mynegi barn bendant ar benderfyniadau a pholisïau Llywodraeth Cymru, rwyf wedi bod â'r parch mwyaf atoch chi fel deiliad swydd y Prif Weinidog, a'r modd yr ydych wedi ymgymryd â'ch gwaith. Rydym wedi gwrthdaro sawl tro yn y Siambr hon, yn arbennig yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ond beth bynnag fo'n gwahaniaethau gwleidyddol, fel pobl, rwy'n hyderus bod yna fwy sy'n ein huno ni nac yn ein gwahanu ni. Ac yn wir, bu adegau pryd y bu i ni gydweithio er mwyn y genedl. Bu pob plaid yn y Siambr hon yn ymgyrchu gyda'i gilydd yn refferendwm 2011 ar bwerau deddfu, ond rydym wedi rhannu rhywfaint o dir cyffredin ar bolisi hefyd: sgoriau hylendid bwyd, iechyd y cyhoedd, gofal plant rhad ac am ddim ac ardollau am fagiau siopa i enwi ond ychydig. Ac rwy'n gwybod eich bod yn yr wythnosau diwethaf wedi ymweld â nifer o brosiectau a gwblhawyd yn ystod eich amser yn eich swydd a hefyd nifer o adeiladau ysgol newydd drwy gyfrwng awdurdodau lleol a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru.

Er ei bod yn deg dweud ichi gymryd yr awenau oddi wrth un o gewri gwirioneddol gwleidyddiaeth Cymru, bydd gan eich olynydd chi esgidiau mawr i'w llenwi hefyd. Rwyf i'n wir o'r farn bod pob un ohonom ni yn y Siambr hon, er ein bod wedi teithio yma ar hyd llwybrau amrywiol, o wahanol rannau o Gymru, rydym ni wedi ein huno gan ymrwymiad at wasanaeth cyhoeddus. Rydym i gyd yn awyddus i gael y gorau i'n gwlad. Rydym yn awyddus i weld Cymru iachach, fwy ffyniannus, fwy amgylcheddol gyfeillgar a thecach, a thrwy ddadl frwd yn y Siambr hon rydym i gyd yn pleidleisio er lles y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, a gwn eich bod chi'n rhannu'r dyhead hwnnw, Prif Weinidog. Ac, ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Geidwadol Cymru, hoffwn ddiolch i chi am eich cyfraniad aruthrol yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, a'r cyfraniad a wnaethoch yn ystod 18 mlynedd yn Llywodraeth ein Cynulliad Cenedlaethol ac ar gyfer Cymru.

Yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, gwn y byddwch yn parhau i fod â rhan weithredol yng ngwleidyddiaeth Cymru yn y lle hwn a thu hwnt hefyd, a gwn fod gwasanaeth cyhoeddus yn eich gwythiennau. Felly, rwy'n siŵr bod dyfodol i chi wrth weithio ar gyfer pobl Cymru mewn bywyd cyhoeddus. Diolch i chi am eich ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, Carwyn. Llongyfarchiadau ar eich cyflawniadau yn eich swydd a hoffwn ddymuno pob llwyddiant yn y dyfodol i chi a'ch teulu. [Cymeradwyaeth.]