2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:37, 11 Rhagfyr 2018

Brif Weinidog, rwy'n siŵr taw chi fyddai'r cyntaf i gytuno nad ydym ni bob amser wedi gweld llygad yn llygad dros y blynyddoedd. Ond, eto i gyd, nid oes gen i ddim amheuaeth bod buddiannau ein gwlad wedi bod yn flaenllaw yn eich meddyliau chi drwy gydol eich oes fel Prif Weinidog. Pan gymeroch chi'r awenau, chi oedd dim ond yr ail Brif Weinidog yn ein hanes, ac mi fydd yr anrhydedd arbennig honno o eiddo i chi am byth, wrth gwrs.

Un o'ch prif orchwylion mewn sawl ffordd oedd adeiladu ar lwyddiant eich rhagflaenydd, a'r sawl y gwnaethoch chi ei alw'n gynharach yn fentor, sef Rhodri Morgan—un a fu'n allweddol wrth ennyn cefnogaeth y bobl i'n hegin Gynulliad Cenedlaethol, sefydliad newydd a oedd, wrth gwrs, ar seiliau simsan iawn yn y dyddiau cynnar hynny. Fe gymeroch chi'r cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif, gan gydweithio yn y glymblaid roedd fy mhlaid i yn rhan ohoni ar y pryd. Fe wnaethoch chi fwrw ymlaen â chynnal y refferendwm yr oeddem ni wedi cytuno rhwng y ddwy blaid i roi ar waith gan sicrhau bod gan y Senedd hon heddiw y pwerau sy'n caniatáu i ni ddeddfu dros Gymru a'i phobl heddiw ac i'r dyfodol. Roedd honno'n gamp fawr, Carwyn, ac rwy'n awyddus i roi hynny ar y cofnod heddiw. Drwy gydweithio rhwng ein dwy blaid ni, cafwyd refferendwm llwyddiannus yn 2011 a oedd yn garreg filltir hanesyddol o bwys. Rydym yn defnyddio'r geiriau hynny'n aml iawn fel gwleidyddion, ond roedd hwn yn hanesyddol o ran twf a datblygiad sefydliadau cenedlaethol ein gwlad. 

Rwy'n credu y bydd y ffordd huawdl rydych chi wedi amlinellu eich gweledigaeth chi o'r math o fframwaith cyfansoddiadol y mae'n rhaid i Gymru ei gael er mwyn iddi fod yn wlad mwy llwyddiannus yn cael ei gweld fel eich cyfraniad pwysicaf. Yn ogystal â datblygu pwerau deddfu'r Senedd, gwelwyd dechrau ar y gwaith o weithredu cyfrifoldebau dros amrywio trethi hefyd yn ystod eich cyfnod wrth y llyw. Bydd y pwerau hyn yn angenrheidiol er mwyn inni gael polisi economaidd mwy cyflawn at y dyfodol. Rydych chi hefyd wedi dadlau'r achos yn gryf dros awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a sefydlu'r comisiwn ar gyfiawnder a fydd yn siŵr o fwrw'r agenda hwnnw yn ei flaen. Yn wir, rwy'n hyderus y bydd arweinwyr Cymru annibynnol yn y dyfodol yn ddiolchgar i chi am eich cyfraniad yn hyn o beth.

Y tu hwnt i hynny, rydych chi wedi gwneud nifer o gyfraniadau yn fwy cyffredinol ar lefel y Deyrnas Unedig, gan alw am ragor o gydweithio rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth Prydain. Rŷch chi wedi galw am strwythur ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig, gyda'r gwledydd datganoledig yn cael eu cynrychioli mewn ail siambr wedi'i diwygio. Mae hyn, wrth gwrs, wedi agor y drws ar y camau nesaf yn esblygiad y berthynas rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn, sydd yn anochel o ddigwydd dros y ddegawd nesaf. Mae'n siŵr y bydd gennych chi gyfraniad pellach i'w wneud i'r drafodaeth honno.