Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Anrhydedd i mi yw cael siarad heddiw ar ran y grŵp Llafur, i roi teyrnged i'r dyn sydd wedi arwain ein plaid a'n gwlad dros y naw mlynedd diwethaf. Mae'r heriau wedi bod yn sylweddol ar adegau. Fel y gwn eich bod wedi ei ddweud o'r blaen eich hun, Carwyn, daethoch i'ch swydd yn dilyn y chwalfa ariannol fyd-eang, wedi eich llesteirio gan ymrwymiad gwleidyddol yn San Steffan i gyni, ac wrth gwrs, mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod dan deyrnasiad Brexit. Bu dyddiau duon yn wir, ond drwy'r cyfan, Carwyn, rydych chi wedi arwain yn egwyddorol ac angerddol, ag arweinyddiaeth sydd wedi sefyll dros Gymru, sydd wedi cydweithio i lunio Cymru well, ac mae'r hyn a gyflawnwyd wedi bod yn sylweddol—nid y lleiaf o'r rhain fu eich llwyddiant yn arwain Llafur Cymru i ennill dau etholiad.
Roedd yr arolygon barn yn dweud wrthym yn gyson, Carwyn, mai chi oedd y gwleidydd uchaf ei barch yng Nghymru—yn ased etholiadol i Lafur Cymru. Cefais innau ychydig o brofiad o'r hud, a melys yw cofio ymgyrchu gyda chi yn Aberpennar ychydig cyn yr etholiad yn 2016. Roedd y cymorth a roesoch chi i mi fel ymgeisydd am y tro cyntaf yn dderbyniol dros ben, fel, rwy'n gobeithio, yr oedd y croeso cynnes a gawsoch chi gan drigolion lleol yn y farchnad wythnosol brysur. Yn yr un modd, roedd y grŵp o fenywod y gwnaethom gyfarfod â nhw yn llyfrgell Abercynon ychydig wedyn yn falch iawn o gyfarfod â seren enwog. Ond roedd gennych chi ffordd o ymgysylltu â nhw a gwneud iddyn nhw deimlo'n gartrefol—i'r fath raddau eu bod nhw, pan ddychwelais i ychydig funudau yn ddiweddarach, yn hapus i roi cyngor i chi ar sut i liwio'ch gwallt. [Chwerthin.] Yna, fe aethon nhw ymlaen i'ch canmol chi am y rhaglenni cerdded a'ch darllediadau hwyliog ar noson waith, ac yna fe gwympodd y geiniog. Roedden nhw'n credu fy mod i wedi dod â'r dyn tywydd poblogaidd am ymweliad â'r lle.
Ond, er gwaethaf yr achos hwnnw o gamadnabyddiaeth, mae eich arweinyddiaeth yn y llywodraeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl sydd nawr mewn gwaith neu â chymwysterau. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r niferoedd uchaf erioed yn staff y GIG a'u cyflogau. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl sy'n ceisio cael gafael ar driniaethau newydd, heb orfod aros mor hir am brofion diagnostig neu drosglwyddo gofal, ac yn goroesi cyflyrau fel canser.
Fel y soniais yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, rwy'n gwybod bod cyfleoedd ar gyfer plant a phobl ifanc wedi bod yn bwysig i chi, ac mae'n amlwg bod eich Llywodraeth chi wneud gwahaniaeth yn y fan hon hefyd: cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd sydd ei angen fwyaf; y cynnig mwyaf hael o ofal plant yn y DU; camau i gefnogi myfyrwyr; cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg; gwelliannau o ran canlyniadau arholiadau. Yn fwyaf amlwg, Carwyn, fel y soniodd siaradwyr eraill, mae eich ymrwymiad i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau modern sy'n addas i'r diben. Mae bron £4 biliwn wedi ei glustnodi ar gyfer hyn, a bydd dros 150 o ysgolion a cholegau wedi eu hadeiladu neu eu hadnewyddu erbyn 2019. Mae fy etholaeth i, cwm Cynon, wedi elwa'n fawr ar hyn. Mae buddsoddiad gwerth dros £100 miliwn yn golygu bod disgyblion o un ysgol uwchradd newydd sbon a saith ysgol gynradd newydd sbon nawr yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau blaengar a modern. Ac mae'r gwelliannau hyn yn ymestyn i'r sector addysg bellach hefyd. Cof arall y byddaf i'n ei drysori yw bod gyda chi wrth ichi dorri'r dywarchen ar gyfer campws £22 miliwn newydd Coleg y Cymoedd Aberdâr yn yr eira a'r cesair iasol. A thra byddai llawer o arweinwyr eraill wedi gadael ar frys o dan y fath amodau ofnadwy, fe wnaethoch chi benderfynu dringo ar y bws a oedd wedi dod yno ar gyfer y gweithwyr a thraddodi araith fyrfyfyr yno ar eu cyfer nhw. Credaf fod hynny'n dweud rhywbeth wrthym ni am y dyn.
Carwyn, rydych hefyd wedi gwneud gwahaniaeth drwy eich gwaith yn helpu i sicrhau canlyniad cadarnhaol o ran ymgyrch 2011 ar bwerau deddfu ac yn y ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi defnyddio'r pwerau hyn oddi ar hynny. Yr un mor bwysig fu'r pwerau trethu a roddwyd i'r Cynulliad hwn i sicrhau'r trethi cyntaf a wnaed yng Nghymru yn yr oes fodern.
Gwn na fydd eich ymddiswyddiad yma heddiw yn golygu diwedd eich cyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Gwn hefyd y bydd Lisa, Seren, Ruairi a Caron wrth eu boddau o allu treulio mwy o amser gyda chi.
Fel rhywun sydd wedi astudio ac wedi bod yn dysgu hanes Cymru, rwy'n hyderus y bydd eich lle yn llyfrau hanes Cymru yn un amlwg. Felly, diolch yn fawr, Carwyn, a dymuniadau gorau i'r dyfodol. [Cymeradwyaeth.]