2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:48, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'n bleser gennyf ddweud ychydig o eiriau yn y datganiad hwn, fel yr ydych chi a minnau wedi cystadlu yn y Siambr hon am bron saith o'r naw mlynedd yr ydych chi wedi gwasanaethu fel Prif Weinidog. Ni wnaeth y dadlau a'r etholiadau hynny yn eich erbyn fawr o les i mi—[Chwerthin.]—chi wnaeth aros yn y gadair acw ac fe arhosais i ar yr ochr hon. Ond rwy'n cofio'r tro cyntaf y gwnaethom ni'n dau gyfarfod, a hynny pan oeddwn i'n Gadeirydd Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, ac fe ddaethoch chi'n siaradwr gwadd i Glwb Cymdeithasol Heddlu De Cymru yn Waterton. Rhyw 17 mlynedd yn ddiweddarach, a dyma ni, yn sefyll yn y Siambr hon yn sefydliad sydd wedi ei drawsnewid ei hun yn Senedd o'r iawn ryw. Ac rydych chi'n deilwng o lawer iawn o'r clod am hynny, yn sgil eich cyfnod yn Weinidog ond hefyd yn Brif Weinidog. Ac yn eich datganiad ar ein cyfer ni'r prynhawn yma, fe wnaethoch chi roi canmoliaeth i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y daith hon ar ddatganoli, gan nodi, yn gwbl briodol, y llwyddiant yr ydych wedi ei gael fel Prif Weinidog, ac yn eich Llywodraethau. Fe nodoch chi, eto yn gwbl briodol, y bobl hynny sydd wedi eich cefnogi ar hyd y daith honno. Oherwydd fel y gwyddom ni'r gwleidyddion, taith unig yw hon yn aml iawn, a bydd rhai o'r penderfyniadau a wnewch chi, yn enwedig mewn llywodraeth, yn benderfyniadau y bydd yn rhaid i chi fel unigolyn eu gwneud. Ac felly rwy'n rhoi teyrnged i'ch cyfnod yn y Llywodraeth, a'ch amser yn Weinidog a'ch amser yn Aelod Cynulliad, a fydd, yn amlwg, yn parhau tan 2021.

Mae gwasanaeth cyhoeddus yn eich gwythiennau chi, heb os nac oni bai. Nid oes neb yn rhoi'r amser na'r ymrwymiad yr ydych chi wedi eu rhoi heb fod gwasanaeth cyhoeddus yn eu gwythiennau, a gellir eich canmol yn fawr am yr ymdrechion yr ydych wedi eu gwneud i wella bywyd pobl Cymru. Rydym yn wahanol iawn yn wleidyddol, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond dyna yw natur gwleidyddiaeth—lluosogrwydd—ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu, mae'n siŵr.

Rwy'n cofio'r adeg yn dda pan wnaethoch chi gyhoeddi eich bod yn ymddiswyddo yn ôl ym mis Ebrill, ac roeddech chi'n rhoi teyrnged i'r staff a oedd wedi rhoi cefnogaeth dda i chi. Rwy'n credu y gallem ni i gyd roi teyrnged i'r staff sydd wedi ein cefnogi, oherwydd, pan wnaethoch chi'r cyhoeddiad hwnnw, ar ddydd Sadwrn oedd hynny, ac fel y mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n fy adnabod i a'm cefndir ffermio yn gwybod, dyna'r amser y byddaf i'n ei dreulio yn y marchnadoedd da byw i lawr yn y gorllewin, ac roedd pennaeth fy staff mewn parti 'stag' yn Las Vegas, a'm swyddog y wasg yng ngêm bêl-droed Tottenham Hotspur yn Wembley, a rhyngom ni—er bod fy niffygion i o ran technoleg yn faen tramgwydd, a dweud y lleiaf—fe wnaethom ni lwyddo i lunio datganiad i'r wasg, ond roeddech chi wedi ein synnu ni bryd hynny, oeddech wir.

Ond nid ydych erioed wedi ein synnu ni gyda'ch ymrwymiad a'ch ymroddiad i Gymru. Rydych wedi tynnu sylw ni at un o'r swyddogaethau mawr yr ydych wedi ei chyflawni, sef codi proffil Cymru nid yn unig yma yn y Deyrnas Unedig, ond ledled y byd, ac rwy'n rhoi teyrnged lawn i chi am wneud hynny. Flynyddoedd lawer yn ôl, byddai llawer o bobl o Gymru yn mynd dramor, a phan fyddai rhywun yn eich holi mewn arolwg neu holiadur, 'O ble rydych chi'n dod?' a byddech chi'n dweud, 'Caerdydd', neu efallai, 'Cymru'—'Beth? Ble mae lle felly?' fyddai'r ymateb, ac yna byddech chi'n dweud 'Llundain' neu 'Lloegr', ac yna'r ymateb fyddai 'O! Rwy'n deall nawr'. Wel, heddiw mae pobl yn gwybod lle mae Cymru ac mae pobl yn gwybod rhywbeth am Gymru, ac mae llawer o'r clod am hynny i chi fel Prif Weinidog ac ymdrechion eich Llywodraeth.

Rwy'n diolch i chi'n ddidwyll iawn fel Aelod Cynulliad am eich cwrteisi i mi yn yr amser yr wyf wedi bod yn Aelod Cynulliad, ond hefyd am y cwrteisi yr ydych wedi ei ddangos i mi fel arweinydd y grŵp Ceidwadol yma yn y Cynulliad. Rwy'n dymuno'r gorau i chi a'ch teulu i'r dyfodol. Pan fyddwn yn mynd adref fin nos ac yn cau'r drws, ar ôl cael diwrnod arbennig o anodd, y teulu sy'n ein cofleidio ni ac yn rhoi cysur i ni, ac rwy'n siŵr bod eich teulu chi yn ffynhonnell fawr o nerth i chi. Rwy'n dymuno'n dda i chi i'r dyfodol ac, yn y ddwy neu dair blynedd arall sydd gennym ni cyn yr etholiad Cynulliad nesaf, rwy'n gobeithio y gwelwn Carwyn Jones yn weithgar iawn yn y Siambr hon. Dymuniadau gorau, Prif Weinidog. [Cymeradwyaeth.]