Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Am y chwe blynedd a hanner y bûm i'n arweinydd fy mhlaid, roedd Carwyn Jones yn Brif Weinidog, ac mae'n deg dweud, fel y dywedodd llawer un yn barod y prynhawn yma, nad ydym wedi cydweld bob amser. Ar adegau bu anghytundeb eithaf cryf rhyngom ni, fel y dylai fod rhwng pleidiau gwleidyddol sy'n wynebu ei gilydd. Ond credaf ei bod yn deg dweud bod yr anghytundebau hynny wedi digwydd mewn ffordd barchus ar y cyfan, ac maen nhw wedi digwydd mewn ffordd sydd wedi galluogi'r ddwy blaid i gydweithio pan fo'r angen wedi codi, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y trafodaethau preifat a gawsom ni.
Carwyn, o'm profiad i o weithio ochr yn ochr â chi, gwn eich bod o ddyhead gwirioneddol i lunio Cymru lle nad yw pobl yn dioddef gwahaniaethu. Pe byddai hynny'n golygu rhoi'r adain dde eithafol yn ei lle ar gwestiwn hiliaeth ac ymraniad neu ar gwestiwn hawliau menywod, rydych chi wedi gweithredu mewn dull egwyddorol a moesegol a chredaf eich bod yn haeddu cydnabyddiaeth am hynny.
Rydych chi hefyd wedi bod yn ddiffuant yn eich awydd i weld Cymru yn symud ymlaen. Ac er fy mod wedi teimlo'n rhwystredig ynghylch y diffyg cefnogaeth i weld cynnydd cyflymach, yn enwedig ar gyfansoddiad Cymru, o ran pwerau, a'r diffyg cefnogaeth yr ydych wedi ei gael gan eich ASau yn arbennig, mae'r ffaith eich bod chi bellach wedi dechrau arni o ran datganoli'r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â gweithio gydag eraill i sicrhau pleidlais 'ie' lwyddiannus yn ôl yn 2011, yn dangos ble'r ydych yn sefyll yn wleidyddol ar y cwestiynau hyn. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gwaith yr ydych wedi ei gychwyn ar y system cyfiawnder troseddol yn dwyn ffrwyth a hynny'n fuan.
Nawr, gwn fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i chi yn bersonol, ac eraill o'ch cwmpas, a gwn o'm profiad fy hun sut y gall bywyd yn llygad y cyhoedd effeithio ar y rhai sy'n agos atom, hyd yn oed pan fyddwn ni'n ceisio eu diogelu rhag hynny. Yr agwedd honno ar y swydd, fwy na thebyg sydd fwyaf anodd. Felly rwy'n gobeithio, ar ôl heddiw, y bydd gennych fwy o amser i'w dreulio gyda'r rhai sy'n agos atoch a'ch anwyliaid. Wedi'r cyfan, dyna'r peth pwysicaf.