Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Ni allaf anghytuno â dim a ddywedodd David Melding. Rwy'n credu y dylai nifer yr anheddau gwag mewn ardal awdurdod cynllunio lleol fod yn ystyriaeth pan fyddant yn ystyried nifer y cartrefi mewn datblygiad newydd. Soniais yn fy ateb gwreiddiol i Neil McEvoy am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno. Rydym ni wedi gweld y cynllun Troi Tai'n Gartrefi, rydym ni wedi gweld y cynllun benthyciadau gwella cartrefi, ac mae hynny yn rhoi'r hyblygrwydd i awdurdodau lleol allu ymateb i ofynion eu hardal benodol.