Anheddau Gwag yng Nghaerdydd

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:09, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn credu bod hwn yn faes pwysig o bolisi cyhoeddus. Gan ddibynnu ar sut yr ydych chi'n cyfrif cartrefi gwag—p'un a ydyn nhw'n wag ar ôl chwe mis, neu gyfnod byrrach—mae rhywle rhwng 23,000 a 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru. Yn fy ardal i, mae gan Rhondda Cynon Taf bron i 500 o adeiladau sydd wedi bod yn wag am bum mlynedd—dyna'r gwaethaf o unrhyw awdurdod ar wahân i Abertawe. Mae'n eithaf rhyfeddol bod ymhell dros 1,100 o anheddau a fu'n wag ers 10 mlynedd ledled Cymru. Felly, mae'n bwysig iawn, gan fod angen inni bwysleisio'r angen i adeiladu mwy o gartrefi, ein bod ni yn defnyddio'r cartrefi sydd ar gael eisoes mor effeithlon â phosib.