Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch. Mae heddiw'n ddiwrnod hanesyddol, felly hoffwn ddechrau drwy anrhydeddu'r Tywysog Llywelyn, tywysog brodorol olaf Cymru sofran, a gafodd ei ladd ar y diwrnod hwn ym 1282 yng Nghilmeri.
Ysgrifennydd y Cabinet, ymwelais yn ddiweddar â thŷ yn Nhrelái a oedd yn dechrau edrych fel jyngl. Roedd yr ardd wedi tyfu mor wyllt fel mai prin y gallech chi weld bod tŷ yno. Yn yr ardd, roedd sbwriel yn cael ei waredu, roedd y ffenestri wedi malu ac roedd planhigion yn tyfu i mewn i'r tŷ, ac mae'n un o 1,300 o gartrefi gwag yng Nghaerdydd y dylai teulu fod yn byw ynddo.
Mae gan Gaerdydd y record waethaf yng Nghymru am ailddechrau defnyddio tai gwag—llai nag 1 y cant yn 2016-17. Rydych chi'n gadael iddyn nhw wneud fel y mynnon nhw yn hynny o beth, ond ar yr un pryd yn caniatáu i'r cyngor Llafur adeiladu miloedd o dai newydd ar gaeau glas na all pobl leol eu fforddio. Felly, pam nad ydych chi'n mynnu bod Cyngor Caerdydd yn defnyddio eu pwerau i ailddefnyddio'r tai gwag hyn, oherwydd nid oes dim yn dangos esgeuluso ein cymunedau yn fwy na thai yn cael eu gadael i bydru am flynyddoedd lawer?