Anheddau Gwag yng Nghaerdydd

Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 11 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:08, 11 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwybod bod dyhead gan Gyngor Caerdydd i leihau nifer yr anheddau gwag, ac ystyriwyd hynny yn rhan o'r archwiliad annibynnol parthed y cynllun datblygu lleol. Fe wnaf i ddweud bod anheddau gwag, yn gwbl ddi-gwestiwn, yn wastraff ar adnoddau. Fe allan nhw'n aml fod yn darged i fandaliaid, sy'n amlwg yn effeithio ar ansawdd bywyd cymdogion a chymunedau lleol. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi rhoi arian—rwy'n credu ei fod bellach tua £40 miliwn—ar gyfnod ailgylchu parhaus. Rwy'n credu bod hynny dros 15 mlynedd, ac mae hynny wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol weithredu cynlluniau.