Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Wel, rwy'n derbyn bod y cais am adolygiad barnwrol yn achos Hendy yn cyfyngu'n sylweddol ar yr hyn y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei ddweud, ond rwyf yn credu bod y penderfyniad a wnaeth hi yn peri gofid fel mater o egwyddor gyffredinol. Mae lleoliaeth yn egwyddor bwysig o lywodraeth, yn fy marn i, a byddwn yn synnu pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn anghytuno â hynny. Yn achlysurol, mae'n rhaid i ystyriaethau cenedlaethol fod yn drech na buddiannau lleol. Unwaith eto, rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Yn achos adalw penderfyniad cynllunio i'w wneud ganddi hi yn hytrach na gan awdurdod lleol neu, yn wir, penderfyniad gan arolygydd, beth yw'r egwyddor pryd y bydd hi'n diystyru penderfyniadau'r rhai sydd mewn swyddogaethau llai dylanwadol?