3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Y cwestiynau nesaf, felly, gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru—Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi ddweud wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin a'r taliadau sylfaenol yn rhoi inni'r canlyniadau y mae angen inni eu gweld. Pa dystiolaeth sydd gennych chi y bydd yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig yn 'Brexit a'n tir' yn gwneud hynny?
Wel, rwyf wedi siarad â Llyr yn y Siambr am y cynllun hwn o'r blaen. Rwy'n credu mai un o'r prif bethau yr ydym ni wedi ei weld eleni yw bod y cynllun taliad sylfaenol yn gyfrwng anneffeithiol nad yw'n diogelu ffermwyr rhag anwadalrwydd yn y ffordd y byddem ni eisiau iddo ei wneud—soniais am y tywydd pan oeddem ni'n siarad am hyn. Yr wythnos diwethaf o flaen y pwyllgor, soniais am y ffaith nad yw'n gwobrwyo perfformiad y ffermwyr nac yn cynorthwyo gyda chynhyrchiant.
Nid oeddwn yn gofyn i chi ddadelfennu'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r taliadau sylfaenol; gofynnais i chi a fydd yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig mewn gwirionedd yn cyflawni'r canlyniadau yr ydych chi'n feirniadol o'r system bresennol am beidio â'u cyflawni, oherwydd, wrth gwrs, dydych chi ddim yn gwybod, nad ydych chi? A dyna'r gwir amdani, oherwydd nid ydych chi wedi gwneud y gwaith modelu, nid ydych chi wedi gwneud y gwaith arbrofi—nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd eich cynigion, nad ydyn nhw erioed wedi cael eu treialu o'r blaen, mewn gwirionedd yn cyflawni'r canlyniadau yr ydych chi eisiau eu cyflawni. Yn wir, rydych chi'n anfon ffermydd a'r holl economi wledig ar daith lle nad ydym ni'n gwybod yn iawn i ble'r ydym ni'n mynd, neu o leiaf nid ydym ni mewn gwirionedd yn gwybod sut yr ydym ni'n mynd i gyrraedd yno, oherwydd nid ydych chi wedi gwneud y gwaith cartref. Nawr, onid ydych chi'n derbyn y dylai'r modelu a'r arbrofi i gyd fod wedi digwydd cyn i chi gyflwyno'ch Papur Gwyn, oherwydd os bydd y gwaith modelu yn dweud wrthych chi yn y gwanwyn, neu bryd bynnag y bydd hynny'n digwydd, na fydd hyn yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym ni eisiau eu gweld, yna byddwch chi wedi gwastraffu blwyddyn gyfan o baratoi ar gyfer Brexit, a bydd hynny'n gwneud i record Llafur Cymru edrych cyn waethed ag un Theresa May?
Wel, nid wyf yn cytuno â chi, oherwydd nid ydym ni wedi cyflwyno'r Papur Gwyn eto; byddwn yn gwneud hynny yn y gwanwyn. Pe byddwn i wedi gwneud y gwaith modelu ac asesu effaith cyn inni ymgynghori, byddem ni wedi cael ein beirniadu am roi'r drol o flaen y ceffyl. Mae'n llawer gwell cael y 12,000 o'r ymatebion hynny yr ydym ni wedi eu cael i 'Brexit a'n tir' ar y ddau gynllun hynny yr ydym ni'n eu cyflwyno. Felly, y cynllun cydnerthedd economaidd—mae hynny ynglŷn â chynhyrchu bwyd. Mae ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud ein busnesau fferm yn gydnerth a chynaliadwy, yr union beth y maen nhw ei eisiau—maen nhw eisiau iddyn nhw fod yn ffyniannus. Ac o ran y cynllun nwyddau cyhoeddus, rydym ni eisiau gwobrwyo ffermwyr, nad yw'n digwydd ar hyn o bryd, am yr adnoddau cyhoeddus y maen nhw'n eu cynhyrchu—yr ansawdd aer gwych hwnnw, ansawdd pridd, ansawdd dŵr, y gwaith atal llifogydd y maen nhw'n ei wneud. Felly, pan rydym ni'n cyflwyno'r Papur Gwyn yn y gwanwyn, bydd y gwaith modelu hwnnw a'r asesu effaith hwnnw wedi'u gwneud.
Felly, pan fydd y modelu hwnnw, pan fydd yr asesiad effaith a phan fydd yr arbrofi wedi eu gwneud, os bydd hynny yn y pen draw yn dangos bod cadw math o daliad sylfaenol yn angenrheidiol mewn gwirionedd i gyflawni rhai o'r canlyniadau yr ydych chi wedi eu rhestru, neu o leiaf i gadw ffermwyr ar y tir er mwyn cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ydych chi wedi bod yn awchu i ddweud wrthym ni eich bod eisiau eu darparu—os yw'r holl dystiolaeth, ar ôl gwneud y gwaith hwnnw, yn dweud wrthych chi bod cadw'r taliad sylfaenol yn angenrheidiol i gyflawni hynny, a wnewch chi gadarnhau i'r Cynulliad heddiw mai dyna fyddwch chi'n ei wneud?
Mae gennyf i ddiddordeb mawr mewn gweld beth fydd y modelu a'r asesu effaith yn ei gyflwyno. Gan i'r cynllun taliad sylfaenol fod yn gymaint o gyfrwng aneffeithiol—ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda ffermwyr dros y misoedd diwethaf, gyda llawer ohonyn nhw'n dweud wrthyf i eu hunain nad ydyn nhw'n credu bod y cynllun taliad sylfaenol yn eu galluogi i fod yn gydnerth ac yn gynhyrchiol yn y ffordd y maen nhw eisiau bod—fe fyddwn yn synnu'n fawr pe bai hynny'n wir. Soniais yr wythnos diwethaf pan yr oeddwn i ger bron y pwyllgor y byddaf yn hyblyg iawn. Felly, gadewch inni weld beth a ddaw o'r ymgynghoriad, a beth wedyn gaiff ei gynnwys yn y Papur Gwyn cyn inni greu cam nesaf y polisi.
Llefarydd y Ceidwadwyr—Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, yn ôl yn y cwestiynau i'r Gweinidogion ym mis Chwefror, fe wnaethoch chi ddweud, o ran cyhoeddi asesiadau effaith amgylcheddol, eich bod yn bwriadu gofyn am asesiad o'r fath ar y llosgydd yn y Barri. Roedd hynny yn ystod y cwestiynau i Weinidogion. Mae'n bwysig, pan fo Gweinidogion yn siarad yn y Siambr hon, fod pobl o'r tu hwnt i'r Siambr hon, yn ogystal ag Aelodau sy'n gofyn y cwestiynau hynny, wrth gwrs, yn gweld camau gweithredu. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch pa gynnydd yr ydych chi wedi ei wneud, oherwydd, fel y dywedais, ym mis Chwefror, roedd hi'n fwriad gennych a chi, yn Weinidog i ymgymryd â hyn ac rydym ni yn awr ym mis Rhagfyr heb unrhyw welliant yn y sefyllfa?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n gwybod y bu'n uchel ei gloch yn dadlau dros hyn ochr yn ochr â'r Aelod etholaeth dros Fro Morgannwg. Er y buom ni'n disgwyl penderfyniad erbyn diwedd Tachwedd, roedd hi'n angenrheidiol cael eglurhad cyfreithiol ynglŷn ag agweddau ar yr achos. Rwyf eisiau gwneud penderfyniad i gyhoeddi hyn cyn gynted â phosib, oherwydd rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa barhaus a'r pryder sydd wedi'i grybwyll, ond mae'n bwysig, pan fyddwn ni'n gwneud hyn, ein bod yn sicrhau bod ein gweithredoedd fel Llywodraeth yn unol â'n rhwymedigaethau rhyngwladol o ran cynal asesiad o'r effaith amgylcheddol. Felly, mae swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn rhoi ystyriaeth ofalus i gydymffurfio â chyfarwyddeb yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, gan ystyried sylwadau gan yr Aelod ei hun ac aelodau eraill, y datblygwr, ac, wrth gwrs, Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau.
Fe glywaf, Gweinidog, beth yw eich rhwymedigaethau rhyngwladol, ac ni fyddai neb ar yr ochr hon i'r Siambr, rwy'n tybio, neu yn wir yn unrhyw le yn y Siambr hon yn galw arnoch i dorri rhwymedigaethau o'r fath, ond mae rhyw 300 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers ichi wneud yr ymrwymiad hwnnw ym mis Chwefror. Boed hynny yn y Barri neu yn unrhyw ran arall o Gymru, pan fydd Gweinidog yn gwneud datganiad o'r fath, siawns ei bod hi'n fanteisiol i'r Gweinidog hwnnw gyflawni cyn gynted ag y bo modd y diwydrwydd dyladwy y gallai fod ei angen yn rhan o'r penderfyniad hwnnw ac yn dod yn ôl â phenderfyniad ar yr adeg briodol. A wnewch chi roi ymateb mwy pendant o ran pryd y cawn ni ymateb gennych chi, o gofio, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, y dywedodd y Prif Weinidog yn ei lythyr wrthyf i y byddai'r penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud ym mis Tachwedd? Fel y dywedais, bu rhyw 300 o ddiwrnodau ers ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw. Faint mwy o amser mewn gwirionedd sydd ei angen arnoch chi?
Fel y dywedais i, rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad cyn gynted â phosib. Rwy'n cydnabod y pryderon ynghylch hyn, ond, fel y mae'r Aelod ei hun wedi dweud, mae diwydrwydd dyladwy o'r pwys mwyaf gyda mater ac achos mor gymhleth â hyn. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn dilyn holl—yn cael y cyngor cyfreithiol perthnasol ac yn gwneud popeth posib o fewn ein gallu i wneud y penderfyniad gorau.
Wel, mae hynny'n ateb siomedig ar y naw, o gofio y gallwn i ddeall y math hwnnw o ateb yn cael ei roi i mi efallai mis, dau fis, efallai dri mis ar ôl i chi datgan eich safbwynt ar y dechrau, ond wyth mis ar ôl hynny ac rydych chi'n dal i roi'r ateb hwnnw. Nawr, fe ges i ateb ysgrifenedig gan y Gweinidog ddoe sy'n awgrymu bod ystyriaethau cyfreithiol y mae'r Llywodraeth yn gweithio drwyddyn nhw ar hyn o bryd. A wnewch chi o leiaf roi awgrym inni—ac nid wyf yn edrych am y cyngor cyfreithiol a roddwyd i chi, gan fy mod i'n sylweddoli na allwch chi roi hynny inni, ond a wnewch chi o leiaf ddweud wrthym ni am rai o'r meysydd y mae'r cyngor cyfreithiol hwnnw yn cyfeirio atyn nhw? Ac a yw'n benodol i Gyfoeth Naturiol Cymru, sef eich cynghorwyr ar y mater hwn, neu a yw'r cyngor cyfreithiol ynglŷn â materion cynllunio ehangach?
Rwyf yn credu—ac rwy'n gobeithio y cytunwch chi â mi—bod angen mwy o eglurder ar drigolion y Barri na'r atebion yr wyf i wedi eu cael gennych chi ar ddau achlysur allan o dri yn awr, ac rwy'n gobeithio, wrth inni dorri ar gyfer y Nadolig yn y dyddiau nesaf, y gallwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i mi ac Aelodau eraill ein bod ni o fewn cyrraedd penderfyniad.
Fel y dywedais, ni allaf bwysleisio digon i'r Aelod fy mod i'n llwyr ymwybodol o bryderon trigolion ar y mater hwn a'r Aelod ei hun, ond mae'n bwysig iawn, iawn i mi ac i'r Llywodraeth hon i wneud yn siŵr ein bod yn cymryd pob cam cyfreithiol angenrheidiol ac yn gwneud y penderfyniad cywir, nid yn gyfreithiol yn unig, ond er mwyn trigolion y Barri hefyd.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Wel, rydym ni'n byw mewn cyfnod gwleidyddol ansicr iawn, ac mae'n debyg y gallai hyn fod y tro diwethaf y byddwn yn wynebu ein gilydd ar draws y Siambr yn rhinwedd swydd bresennol Ysgrifennydd y Cabinet, er y byddai'n ddrwg gennyf pe byddai hi'n cael ei symud. Rwyf wedi dod yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf i edmygu a pharchu sut y mae hi wedi ymdrin â chryn dipyn o faterion â meddwl agored, yn gwrando ar randdeiliaid a phobl leol, yn enwedig o ran penderfyniadau ynglŷn â nitradau a hefyd y diciâu mewn gwartheg, ond mae'n rhaid imi ddweud yn ddiweddar bod yr enw da yma y mae hi wedi ei ennill wedi cael ambell i dolc oherwydd sawl penderfyniad y bu hi'n gyfrifol amdanyn nhw: un, wrth gwrs, yw'r gwaharddiad ar saethu, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei gyflwyno ar dir cyhoeddus; y cyfreithiau pysgota llym ar eogiaid a sewin, a gynigiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto ar dystiolaeth amheus; ac wrth gwrs yr hyn a grybwyllais i y tro diwethaf, fferm wynt Hendy, gan wyrdroi dyfarniad Cyngor Sir Powys ac adroddiad ei harolygydd ei hun.
Mae Theresa May wedi cael ei beirniadu, yn deg, rwy'n credu, am beidio â gwrando ac mae hi wedi cael ei hun i lanastr enfawr, y bydd hi'n anodd iddi ddod allan ohono. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn edifaru am roi ei hagenda polisi o flaen buddiannau pobl leol a rhanddeiliaid lleol?
Wel, os ydych chi'n cyfeirio at sefyllfa fferm wynt Hendy, yr ydych chi, fel y dywedwch chi, wedi ei grybwyll yn y Siambr, yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn bod hawliad wedi ei gyflwyno i'r Uchel Lys. Felly, ni allaf ddweud unrhyw beth ychwanegol ynglŷn â hynny. Rwy'n falch iawn gyda'r targedau ynni adnewyddadwy yr wyf i wedi eu llywio drwy'r Siambr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym ni dargedau adnewyddadwy uchelgeisiol. Rwy'n ymwybodol iawn o'm rhwymedigaethau i a rhwymedigaethau Llywodraeth Cymru o ran newid yn yr hinsawdd, ac rwy'n credu bod y targedau ynni adnewyddadwy yr ydym ni wedi eu cyflwyno—. Cawsom ddadl yr adeg hon yr wythnos diwethaf ynglŷn â rheoliadau carbon; byddaf yn cyflwyno'r cynllun cyflawni allyriadau carbon yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Felly, rwy'n falch iawn o'r pethau hynny.
Wel, rwy'n derbyn bod y cais am adolygiad barnwrol yn achos Hendy yn cyfyngu'n sylweddol ar yr hyn y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei ddweud, ond rwyf yn credu bod y penderfyniad a wnaeth hi yn peri gofid fel mater o egwyddor gyffredinol. Mae lleoliaeth yn egwyddor bwysig o lywodraeth, yn fy marn i, a byddwn yn synnu pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn anghytuno â hynny. Yn achlysurol, mae'n rhaid i ystyriaethau cenedlaethol fod yn drech na buddiannau lleol. Unwaith eto, rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Yn achos adalw penderfyniad cynllunio i'w wneud ganddi hi yn hytrach na gan awdurdod lleol neu, yn wir, penderfyniad gan arolygydd, beth yw'r egwyddor pryd y bydd hi'n diystyru penderfyniadau'r rhai sydd mewn swyddogaethau llai dylanwadol?
Wel, nid wyf yn credu y gallaf i roi ateb cyffredinol i'r cwestiwn hwnnw i chi. Yn amlwg, caiff pob achos sylw yn unigol. Mae gennyf ddau ar fy nesg ar y funud y darllenais am y tro cyntaf dros y penwythnos, darllenais nhw eto ddoe, a byddaf fwy na thebyg yn eu darllen eto heddiw. Mae'n rhywbeth y mae angen ichi roi ystyriaeth ddwys iawn iddo, yn amlwg, ond nid wyf yn credu y gallaf i roi ateb cyffredinol ichi i'r cwestiwn penodol hwnnw.
Wel, mae'n ddrwg gennyf na all Ysgrifennydd y Cabinet ateb, gan fy mod yn credu bod cwestiwn pwysig o dryloywder o dan sylw yma, bod y penderfyniad ynglŷn â Hendy yn wahanol iawn i'r penderfyniad a wnaeth hi ynglŷn â Rhosgylyddwr. Penderfynodd hi beidio ag ymyrryd yn yr achos hwnnw, ac felly mae gennym ni bellach fferm wynt yn cael ei chodi. Ymwelais â'r lle fy hun yr wythnos diwethaf. Mae'r dirwedd yn cael ei chreithio, a fydd yn difetha'r golygfeydd ysblennydd ar draws y bryniau. Yn Rhosgylyddwr, wrth gwrs, roedd y dirwedd a'r morlun wedi eu diogelu. Yn yr amgylchiadau hyn, onid yw hi'n briodol i'r Llywodraeth gyhoeddi'r rhesymau pam ei bod hi'n gwneud penderfyniad mewn un achos ond nid mewn un arall fel y gall pobl ddeall ar ba egwyddorion y mae'r penderfyniadau pwysig iawn hyn, sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd, yn seiliedig?
Wel, caiff y llythyr penderfyniad ei gyhoeddi bob tro ac, yn amlwg, mae hynny ar gael i unrhyw un sydd eisiau ei ddarllen. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud y system gynllunio mor syml ac mor rhwydd ag y bo modd. Fe fyddwch yn ymwybodol yr wythnos diwethaf imi lansio 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10', sef argraffiad newydd o 'Polisi Cynllunio Cymru', ac mae hwnnw wedi'i ddiwygio'n drwyadl erbyn hyn i ystyried, mewn modd llawer mwy cyfannol, rwy'n credu, y penderfyniadau a wneir ynglŷn â'r amgylchedd adeiledig.