Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi ddweud wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin a'r taliadau sylfaenol yn rhoi inni'r canlyniadau y mae angen inni eu gweld. Pa dystiolaeth sydd gennych chi y bydd yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig yn 'Brexit a'n tir' yn gwneud hynny?