Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Gweinidog, rhaid imi ddweud fy mod i ychydig yn siomedig na ddiddymwyd yr estyniad terfyn cyflymder dros dro 50 milltir yr awr i'r gorllewin o Bort Talbot yr haf hwn, fel y gwnaethoch chi ddweud mewn araith yn gynharach eleni. Wrth gwrs, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa anodd ar hyn o bryd o ran yr achos llys hwn ynghylch ansawdd aer a gorfod lleihau, yn enwedig allyriadau tagfeydd traffig, o ganlyniad i'r achos llys hwnnw. Er hynny, rwy'n credu bod angen i ni weld pethau yn eu gwir oleuni yn hyn o beth, oherwydd, yn amlwg, ceir llawer iawn o lygredd diwydiannol yn ardal Port Talbot hefyd. Felly, rwy'n meddwl tybed a allwch chi ddweud wrthyf i sut y byddwch chi'n cydbwyso cyllid rhwng ymdrechion y Llywodraeth ganolog a llywodraeth leol i fynd i'r afael â llygredd aer traffig a llygredd aer diwydiannol, ac, yn benodol, yr arian yr ydych chi'n ei roi i awdurdodau lleol—sut ydych chi'n sicrhau y caiff ei wario mewn difrif ar wella ansawdd yr aer, fel oedd y bwriad.