Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n gwybod fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi ei grybwyll o'r blaen yn y fan yma, ochr yn ochr â'r Aelod dros Aberafan hefyd. Rydych chi'n gwybod bod her arbennig o gymhleth a dyrys yng nghyswllt ansawdd aer ym mharthau Port Talbot, oherwydd natur hanesyddol y gwaith dur, sy'n gyflogwr mawr yn yr ardal hefyd, a'r M4 hefyd. O ran—. Rydych chi'n cydnabod, o ran y terfyn cyflymder, mai edrych ar hynny yw'r hyn yr ydym ni wedi ei nodi fel modd o fodloni'r gydymffurfiaeth gyfreithiol honno yn yr amser byrraf posib wrth symud ymlaen. O ran sut yr ydym ni'n edrych ar—. Rydych chi'n llygad eich lle, er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd aer, mae angen gwneud mwy nag ystyried allyriadau nitrogen deuocsid yn unig; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r deunydd gronynnol, yr holl faterion ynglŷn ag ansawdd aer yn yr ardal, a dyna pam y bydd ein rhaglen aer glân, cynllun aer glân, yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol i edrych ar hynny yn ei gyfanrwydd ac i ymdrin â hynny. Ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n hapus i'w drafod gyda'r Aelod yn fwy manwl, pe byddwn i mewn sefyllfa i wneud hynny yn y dyfodol hefyd.