Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Wel, rwy'n credu y gallai hynny fod wedi creu ymdeimlad ffug o ddiogelwch ynddyn nhw braidd, yn sicr yn achos rhai o'r ffermwyr yr wyf i wedi siarad â nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf wedi bod i rai ffermydd garddwriaethol da iawn. Ymwelais ag un yn y gorllewin yn ystod yr haf, ac roedd yn hyfryd gweld y ffrwythau a'r llysiau di-ri y maen nhw'n eu cynhyrchu. Fel y dywedaf, mae'n rhan o'n strategaeth i'w helpu nhw i gynyddu'r cynnyrch hwnnw 25 y cant.