Part of 3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rheoliadau cynllunio ac adeiladu sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i dai gael eu diddosi mor dda fel na fydd angen cymaint o wresogi arnyn nhw. Fodd bynnag, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, mae disgwyl i'r DU brofi cyfnodau poeth yn amlach, mae cael hafau fel eleni dri deg gwaith yn fwy tebygol. Yn ystod yr haf, mae llawer o eiddo newydd yn gorboethi ac wedi arwain at gynnydd yn y galw am system awyru. Ysgrifennydd y Cabinet, sut fydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod cynllunio a rheoliadau adeiladu yn ystyried newid yn yr hinsawdd ac nid yn arwain at alw cynyddol am ynni?