Part of 4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Dilynwyd y rhaglen gyflwyno cyflym iawn gan raglen ymelwa busnes a rhaglen ymelwa domestig—efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld fod mellten gartŵn felen fawr sy'n cyrraedd eich pentref gydag arwydd mawr—ac yna rydym yn cynnal rhaglenni i bobl ddod i ddeall sut i gael y gorau allan o'r gwasanaeth sydd wedi cyrraedd a sut i asesu'r angen ar gyfer eu busnes yn benodol. Felly, defnydd domestig—oni bai fod gennych nifer enfawr o blant yn eu harddegau sydd i gyd am gael mynediad ar yr un pryd, mae'n iawn ar 24 Mbps, fwy neu lai, ond mae gan y rhan fwyaf o fusnesau angen pwrpasol. Ac felly, un o'r pethau gydag unrhyw ymelwa ar dechnoleg newydd yw gwneud yn siŵr bod y busnesau yn gwneud eu hasesiad busnes o'u hangen a'r angen iddynt fuddsoddi yn y gwasanaeth yn gywir, oherwydd mae angen iddynt ddeall pa dwf esbonyddol all ddod o rai o'r mynedfeydd.
Mae'r tîm ymelwa busnes yn dilyn y cyflwyniad cyflym iawn o gwmpas—gan wneud dau awdurdod ar y tro ledled Cymru, mewn gwirionedd. Rydym yn ysgrifennu at bawb yn yr awdurdod, ac mae hynny'n eu rhybuddio o'r ffaith y gallent ei gael ac, yn achlysurol, mae'n ein rhybuddio o'r ffaith y credwn y gallai rhywun ei gael ac nid ydynt wedi ei gael. Ac o ran y gyfran ar hynny, rydym yn ysgrifennu miloedd o lythyrau a chawn ddegau yn ôl. Ond mae'n wirydd defnyddiol, os hoffech chi—yn wirydd ychwanegol. Ond mae Bethan Sayed yn hollol gywir, oherwydd weithiau mae pobl yn aros i'r rhaglen gyflym iawn gyrraedd, maent yn cael 30 Mbps neu rywbeth tebyg, ond maent yn rhedeg busnes fferm fawr neu safle carafanau mawr ac, mewn gwirionedd, mae angen 100 Mbps er mwyn cael eu hangen busnes. Felly, mae'r system yn gallu cyflawni hynny, ond rhaid iddynt ddeall beth sydd ei angen ac yna gallwn eu helpu i gael y darparwr gwasanaeth rhyngrwyd gorau, er enghraifft, a system gyda chynllunio ar gyfer hynny. Felly, rwy'n ymwybodol iawn o'r pwynt y mae hi'n ei godi, ac mae'n bwynt da iawn. Rydym yn ceisio diogelu'r system i'r dyfodol yn y ffordd honno.
A'r peth olaf i'w ddweud yw y bu adroddiad da iawn gan y Brifysgol yn Ne Cymru— Prifysgol De Cymru; rwyf bob amser yn dweud hynny o chwith—am beth sy'n digwydd i fusnesau bach pan maent yn manteisio ar y rhyngrwyd yn iawn a beth sy'n digwydd pan nad ydynt. Rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith, ac mae yn llyfrgell yr Aelodau. Mae'n werth edrych arno, gan fod y gwahaniaeth mewn gwirionedd yn eithaf syfrdanol, ac felly rydym yn defnyddio hynny fel ffordd o annog pobl i ddeall bod y buddsoddiad yn fuddiol ar gyfer eu busnes. Gallai ymddangos yn llawer, ond mewn gwirionedd mae'n werth chweil ar gyfer twf busnes.